Dafydd Wigley
Mae cyn arweinydd Plaid Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ymuno â bwrdd yr ymgyrch  Prydain yn Gryfach yn Ewrop.

Mae’r ymgyrch a lansiwyd fis Hydref y llynedd yn cynnwys ffigurau amlwg fel cyn-gadeirydd M&S Stuart Rose ac is-gadeirydd West Ham United, Karren Brady ynghyd â chyn-bennaeth y Fyddin Brydeinig Syr Peter Wall ymhlith eraill.

Mewn erthygl yn y Sunday Times ddoe, fe rybuddiodd yr Arglwydd Dafydd Wigley y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi swyddi yng Nghymru yn y fantol.

‘Trychineb llwyr’

Ym mis Tachwedd y llynedd, mewn ymateb i arolygon barn ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru, fe ddywedodd y byddai’n “drychineb llwyr.”

Fe ychwanegodd: “Yn dilyn cyhoeddiad arolwg barn arall ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd sy’n dangos gwahaniaeth barn yn Lloegr o’i gymharu â Chymru a’r Alban, rhaid i Lywodraeth y DU gydnabod yr angen am gyfri a chyhoeddi ar wahân i bob cenedl.”

Mae David Cameron yn parhau i ystyried dyddiadau i gynnal refferendwm ynglŷn ag aelodaeth Prydain yn Ewrop cyn 2017, ond disgwylir iddo gyhoeddi dyddiad ym mis Mehefin.