Mae Aldi yn bwriadu creu 5,000 o swyddi ac agor 80 o siopau newydd o dan gynlluniau ehangu’r cwmni archfarchnad.
Dywed y cwmni y bydd y swyddi yn cynnwys rheolwyr, a staff yn eu siopau.
Ar hyn o bryd mae’r cwmni o’r Almaen yn cyflogi 28,000 o weithwyr mewn mwy na 600 o archfarchnadoedd.
Mae holl staff Aldi yn cael eu talu isafswm cyflog o £8.40 yr awr neu £9.45 yn Llundain – sydd yn uwch o lawer nag isafswm cyflog newydd y Llywodraeth o £7.40 i oedolion o fis Ebrill.
Dywed Aldi ei fod yn chwilio am unigolion sy’n chwilio am yrfa hir dymor gyda “busnes uchelgeisiol sy’n tyfu.”
Yn ôl Aldi, mae wedi buddsoddi’n helaeth yn ei Academi, yn Bolton, lle mae arbenigwyr recriwtio yn cynnig hyfforddiant i staff.