Fe fydd y Blaid Lafur yn cyhoeddi ei chynlluniau i greu 100,000 o brentisiaethau newydd os fydd Llafur Cymru yn ennill etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

Mae’n un o’r chwe addewid etholiadol fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth iddo ymweld â ffatri Airbus yng ngogledd Cymru heddiw.

Er y bydd y prentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed, byddant yn canolbwyntio ar bobl ifanc rhwng 16 ac 18 mlwydd oed.

Gwerth am arian

Mae adroddiad diweddar gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn dangos fod £74 yn cael ei greu am bob £1 sy’n cael ei fuddsoddi mewn prentisiaethau.

Daw’r cyhoeddiad wedi i Blaid Cymru gyhoeddi fis diwethaf y byddai’n creu 50,000 o brentisiaethau newydd dros y pum mlynedd nesaf pe bai mewn grym wedi’r etholiadau ym mis Mai.

Sgiliau i ateb y galw

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones y byddai’r prentisiaethau yn  cefnogi economïau rhanbarthol yng Nghymru wrth sicrhau fod gan Gymru’r sgiliau i ateb galw prosiectau seilwaith mawr yn Wylfa ar Ynys Môn a Metro De Cymru drwy greu prentisiaethau yn yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.

Wrth siarad cyn y cyhoeddiad, meddai Carwyn Jones:  “Rydym yn gwybod fod Cymru yn llwyddo pan mae ein heconomi yn gryf – a bod y llwyddiant a chryfder wedi ei adeiladu ar ansawdd a gweithlu medrus.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi datblygu arfer da o greu prentisiaethau o safon uchel i gefnogi twf yn ein heconomi.

“Yn nhymor nesaf y Cynulliad bydd Llafur Cymru yn cryfhau ei phartneriaeth gyda busnesau yng Nghymru a chreu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel yn y meysydd lle mae angen i’n heconomi i dyfu.”