Ahmet Davutoglu
Parhau wnaeth ymosodiadau Twrci ar ardaloedd Cwrdaidd yng ngogledd Syria ddydd Sul.
Mae adroddiadau bod dau filwr o Luoedd Democrataidd Syria – sy’n gyfuniad o Gwrdiaid ac Arabiaid – wedi’u lladd.
Cafodd saith o filwyr eraill eu hanafu.
Mae milwyr Twrci wedi cipio nifer o bentrefi yn nhalaith Aleppo ger y ffin gyda Thwrci dros y dyddiau diwethaf, ac mae disgwyl iddyn nhw symud ymlaen i dref Azaz.
Mae pryderon gan Dwrci fod gan y lluoedd gysylltiadau gyda PKK, sy’n cael eu hystyried yn frawychwyr.
Dywedodd prif weinidog Twrci, Ahmet Davutoglu nos Sadwrn fod yr ymosodiad ar filwyr Cwrdaidd yn ymateb i gael eu pryfocio ar y ffin.
Daw’r ymosodiadau yn dilyn cyhoeddiad gan yr Unol Daleithiau a Rwsia eu bod yn bwriadu dirwyn y brwydro yn y rhanbarth i ben o fewn wythnos.