Fe fydd rhaid i Gymru guro Ffrainc er mwyn herio Lloegr am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, meddai Warren Gatland.
Llwyddodd Cymru i sicrhau’r fuddugoliaeth o drwch blewyn o 27-23 dros yr Alban, yn dilyn gornest gyfartal yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ar ddiwrnod cynta’r gystadleuaeth.
Noson ddigon ansicr gafodd y Cymry neithiwr wrth iddyn nhw orfod aros tan y deng munud olaf i osod eu stamp ar yr ornest yn wyneb amddiffyn cryf yr Albanwyr.
Ond roedd ceisiau i’r triawd o Gymry Cymraeg, Jamie Roberts, George North a Gareth Davies yn ddigon i sicrhau bod yr Alban yn colli am y nawfed gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad.
Bydd Cymru’n herio Ffrainc yng Nghaerdydd ymhen pythefnos cyn teithio i Twickenham ar Fawrth 12 ar gyfer gornest a allai benderfynu pwy fydd yn cael eu coroni’n bencampwyr.
Dywedodd Gatland: “I ni, mae’r bythefnos nesaf yn golygu popeth. Os gallwn ni guro Ffrainc, rydym o bosib yn herio Lloegr am y Bencampwriaeth.
“Dyna sut mae hi, a dydy hynny ddim yn tynnu unrhyw beth oddi ar yr Eidal yn y gêm olaf.
“Os na allwn ni ennill y ddwy gêm nesaf, yna dw i’n credu y bydd yr ysgogiad yno i herio’r Eidal gartref.
“Ond un cam ar y tro yw hi.”
George North
Un a gafodd ganmoliaeth gan Gatland oedd George North, a sgoriodd un o geisiau Cymru yn yr ail hanner.
“Fe welodd pawb pa mor ddinistriol oedd e pan ymddangosodd e gyntaf. Ond am ba bynnag rheswm, doedd ei berfformiadau ddim yn cyfateb i’r ffordd yr oedd e’n chwarae ynghynt.
“Ond mae’n bleser ei weld e’n chwarae’n dda a bod yn hyderus. Gobeithio y gall e fynd ymlaen o’r fan hyn.”