Robot wrth ei waith ar blaned Mawrth (llun: PA)
Mae arbenigwr cyfrifiadurol yn rhybuddio bod y ddynoliaeth yn wynebu argyfwng gwacter ystyr wrth i robotiaid gymryd lle mwy a mwy o swyddi o hyd.

Wrth annerch gwyddonwyr blaenllaw yn America heddiw, dywedodd yr Athro Moshe Vardi o Brifysgol Rice yn Houston, Texas, y gall hanner pobl y byd fod yn ddi-waith ymhen 30 mlynedd .

“Os yw peiriannau’n gallu gwneud bron iawn unrhyw waith y gall bodau dynol ei wneud, beth fydd bodau dynol yn ei wneud?” gofynnodd yn ei gyflwyniad, Smart Robots and their Impact on Society.

“Dw i ddim yn meddwl bod y rhagolygon o fywyd o hamdden yn unig yn rhywbeth addawol. Dw i’n credu bod gwaith yn hanfodol i les dynol.

“Mae’r ddynoliaeth ar fin wynebu’r hyn fydd efallai ei her mwyaf erioed, sef darganfod ystyr i fywyd ar ddiwedd ‘trwy chwys dy wyneb y bwytei fara’.”

Dywedodd fod cyflymdra’r cynnydd mewn deallusrwydd artiffisial yn cynyddu, wrth i’r un dechnoleg ddileu nifer cynyddol o swyddi dosbarth canol ‘coler wen’ a chynyddu anghydraddoldeb incwm.