Mae’r Llywodraeth yn annhebygol o osod ‘treth siwgr’ fel rhan o strategaeth, i’w chyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra plant.
Mae disgwyl yn hytrach y bydd y Llywodraeth yn defnyddio bygythiad o dreth o’r fath yn y dyfodol er mwyn annog y diwydiant bwyd i weithredu.
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn dadlau mai codi prisiau diodydd a byrbrydau melys yw’r ffordd orau o gael pobl a phlant i fwyta ac yfed llai o sothach.
Roedd y Prif Weinidog David Cameron hefyd wedi awgrymu y mis diwethaf y gallai fod angen treth benodol i fynd i’r afael â’r ‘argyfwng’ gordewdra ymysg pobl ifanc.
Mae disgwyl y bydd y strategaeth newydd yn argymell gwahardd hysbysebion bwydydd a diodydd afiach rhag cael eu darlledu o gwmpas rhaglenni teuluol fel X Factor a Britain’s Got Talent. Mae modd dosbarthu’r rhaglenni hyn ar sail y ganran o bobl o dan 18 sydd yn eu cynulleidfa.
Bydd cwmnïau’n cael eu rhybuddio i newid eu cynhyrchion i leihau’r siwgr sydd ynddyn nhw.
Mae astudiaeth yn debygol o gael ei lansio i weld sut y gallai treth siwgr weithio os nad yw cwmnïau’n cymryd camau digonol.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd Lloegr: “Bydd ein strategaeth gordewdra plant yn edrych ar bopeth, gan gynnwys siwgr, sy’n cyfrannu at wneud plentyn yn ordew. Bydd hefyd yn nodi’r hyn y gall pob ochr ei wneud i wella pethau.”