John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America (llun swyddogol)
Dywed John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America, ei fod yn mawr obeithio y bydd pobl Prydain yn pleidleisio dros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad mewn cynhadledd diogelwch yn Munich, dywedodd John Kerry fod yr Undeb Ewropeaidd yn wynebu sawl her, gan gynnwys Brexit.
“Hoffwn fynegi hyder yr Arlywydd Obama a phawb ohonom yn America y bydd, fel sydd wedi digwydd lawer gwaith o’r blaen, Ewrop yn tyfu’n gryfach nag erioed, cyn belled ag y bydd yn aros yn unedig,” meddai.
“Mae’n amlwg ei bod er budd i’r Unol Daleithiau eich bod yn llwyddo, ac yn aros fel Teyrnas Unedig gref iawn mewn Undeb Ewropeaidd cryf.”
Mae ei sylwadau’n dilyn neges y Prif Weinidog David Cameron yn Hamburg neithiwr fod yn rhaid i Ewrop sefyll gyda’i gilydd yn erbyn bygythiadau fel y Wladwriaeth Islamaidd ac ymosodiadau gan Rwsia.
Mae disgwyl hefyd y bydd ngeseuon tebyg gan yr Arlywydd Barack Obama unwaith y bydd ymgyrch y refferendwm wedi cychwyn.