Reinhold Hanning
Mae cyn-swyddog Natsïaidd yn Auschwitz, sydd bellach yn 94 oed, wedi mynd o flaen ei well ar gyhuddiad o fod â rhan mewn llofruddiaeth 170,000 o bobl.
Roedd y gwersyll crynhoi yng Ngwlad Pwyl yn un o’r rhai mwyaf adnabyddus yn yr Ail Ryfel Byd, ble roedd Iddewon a lleiafrifoedd eraill yn cael eu carcharu a’u lladd.
Dywedodd Reinhold Hanning, oedd yn sarsiant SS yn ystod y rhyfel, ei fod yn gweithio mewn rhan wahanol o Auschwitz i ble roedd y carcharorion yn cael eu lladd â nwy.
Ond mae’r erlyniad yn dadlau bod pob swyddog yn y gwersyll wedi cymryd rhan yn y ‘weithred Hwngaraidd’ yn 1944, pan gafodd cannoedd ar filoedd o Iddewon o Hwngari eu lladd.
Fe ddywedodd cyfreithiwr Reinhold Hanning yn yr achos yn Detmold, yr Almaen, fod y diffynnydd yn cyfaddef ei fod wedi gweithio yn rhan Auschwitz I y gwersyll, ond yn gwadu gweithio yn Auschwitz II-Birkenau ble cafodd y rhan fwyaf eu lladd.
Yn 2011, John Demjanjuk oedd y person cyntaf i gael ei ganfod yn euog yn yr Almaen o chwarae rhan mewn marwolaethau yn un o wersylloedd crynhoi’r Natsïaid oherwydd ei fod wedi bod yn warchodwr yno, heb unrhyw dystiolaeth ei fod wedi bod yn rhan o unrhyw lofruddiaeth benodol.