Dan Biggar (llun: Gareth Fuller/PA)
Bydd Dan Biggar yn dechrau yn erbyn yr Alban yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn ar ôl gwella o anaf i’w bigwrn.
Roedd y maswr wedi gorfod gadael y cae yn gynnar yn ystod y gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon ddydd Sul, gyda Rhys Priestland yn cymryd ei le.
Ond mae rhif 10 y Gweilch yn ffit unwaith eto ar ôl treulio’r wythnos yn gwella, gyda hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn oedi cyn cyhoeddi’r tîm er mwyn gweld a fyddai’n holliach.
Does dim newid i’r pymtheg ddechreuodd y gêm gyfartal 16-16 yn erbyn y Gwyddelod, felly mae Justin Tipuric yn cadw’i le fel blaenasgellwr o flaen Dan Lydiate.
Dim ond un newid sydd ymysg yr eilyddion, gyda Gareth Anscombe yn cymryd lle Alex Cuthbert ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.
Cyrraedd hanner cant
Bydd y canolwr Jonathan Davies yn ennill ei 50fed cap yn erbyn yr Albanwyr, wrth i Gymru chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth eleni.
Mae eu canlyniad yn Nulyn yn golygu bod eu gobeithion o gipio’r Gamp Lawn a’r Goron Driphlyg eisoes ar ben.
Ond fe allen nhw dal ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad os ydyn nhw’n ennill pob un o’u gemau sydd yn weddill.
Tîm Cymru v Yr Alban
Liam Williams, George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Tom James, Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Sam Warburton, Justin Tipuric Taulupe Faletau
Eilyddion: Ken Owens, Gethin Jenkins, Tomas Francis, Bradley Davies, Dan Lydiate, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Gareth Anscombe