Hillary Clinton
Mae’r pleidleisio wedi dechrau yn nhalaith New Hampshire, UDA, i ddewis ymgeiswyr arlywyddol y Gweriniaethwyr a’r Democratiaid.
Fe ddywedodd Hillary Clinton y bydd hi’n “parhau i weithio tan y bydd y bleidlais olaf wedi ei tharo a’i chyfrif.”
Mewn gorsaf bleidleisio yn ninas Manchester yn New Hampshire yn ystod y bore, gwelwyd Hillary Clinton yn ysgwyd llaw a thynnu lluniau gyda chriw o wirfoddolwyr a chefnogwyr.
Mae ras y Democratiaid rhwng Hillary Clinton a Bernie Sanders. Yr wythnos ddiwethaf, fe lwyddodd Clinton i guro Sanders o drwch blewyn yn y bleidlais yn Iowa.
Fe wrthododd fynegi ei gobeithion am ganlyniadau’r bleidlais gynradd yn New Hampshire heddiw, ond fe ddywedodd ei bod yn “edrych ymlaen at etholiad da.”
Ar ochr y Gweriniaethwyr, mae’r biliwnydd dadleuol Donald Trump yn gobeithio am “berfformiad gwell” na’r hyn a ddigwyddodd yr wythnos ddiwethaf yn nhalaith Iowa pan lwyddodd y seneddwr o Texas ei guro, sef Ted Cruz.