Timau achub ger safle'r adeilad a gwympodd yn y ddaeargryn
Mae erlynwyr yn Taiwan wedi gwneud cais i’r awdurdodau i gadw tri datblygwr yn y ddalfa ar ôl i floc o fflatiau ddymchwel mewn daeargryn gan ladd dwsinau o bobl.
Roedd yr adeilad 17 llawr o’r enw Weiguan Golden Dragon wedi dymchwel yn y ddaeargryn, ond honno oedd yr unig adeilad uchel i gwympo yn y trychineb.
Mae 41 o bobl bellach wedi cael eu lladd yn sgil y daeargryn, pob un ar wahân i ddau oherwydd i’r bloc o fflatiau gwympo.
Cafodd 320 o bobl eu hachub yn yr oriau wedi’r trychineb, ond y gred yw bod dros 100 o bobl yn dal i fod yn gaeth o dan y rwbel.
Safonau llym
Mae Swyddfa Erlynydd Rhanbarth Tainan bellach wedi dweud eu bod yn amau tri datblygwr, oedd yn rhan o’r prosiect i godi’r adeilad, o esgeulustod proffesiynol a arweiniodd at farwolaeth.
Dywedodd Asiantaeth Newyddion Canolog Taiwan bod yr erlynydd wedi gwneud cais i gadw Lin Ming-hui a dau swyddog gweithredol arall, Chang Jui-an a Cheng Chin-kui, yn y ddalfa rhag iddyn nhw amharu â’r ymchwiliad.
Yn ôl darlledwyr yn Nhaiwan roedd Lin Ming-hui wedi newid ei enw ar ôl mynd yn fethdalwr, ac wedi rhedeg sawl cwmni.
Y gred yw nad oedd y bloc o fflatiau wedi cael ei hadeiladu’n iawn nôl yn 1989, ac mai dyna achosodd iddo gwympo.
Mae Taiwan yn cael daeargrynfeydd yn aml, ond prin y mae adeiladau’n cael eu difrodi gan fod safonau adeiladu llym i’w cael yn y wlad er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll unrhyw effeithiau.