Mae un person wedi cael eu harestio ar ôl i fanylion staff Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gael ei beryglu.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi arestio dynes 59 oed o ardal Pen-y-bont mewn cysylltiad â throseddau gwarchod data.
Mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd yr awdurdod tân eu bod wedi cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i roi gwybod iddyn nhw am y broblem bosib a gododd ddydd Gwener, 5 Chwefror.
Dyw hi ddim yn amlwg eto beth oedd natur y wybodaeth gafodd ei beryglu, ond mae Gwasanaeth Tân De Cymru wedi dweud eu bod yn cydweithio ag undebau llafur i weld beth allai’r effaith posib fod i staff.
“Cafodd penderfyniad ei wneud i ddweud wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth bod diogelwch wedi’i beryglu ac fe fyddwn ni’n gweithio â nhw ar y mater difrifol hwn,” meddai’r gwasanaeth tân.
“Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru dawelu meddyliau’r cyhoedd a’i phartneriaid nad oes unrhyw ddata, oni bai am ddata staff, wedi cael ei beryglu.”