Y difrod wedi daeargryn Taiwan
Mae dau berson wedi cael eu hachub o’r rwbel ddeuddydd ar ôl i adeilad aml-lawr ddymchwel yn Taiwan yn sgil daeargryn sydd wedi lladd o leiaf 37 o bobl.
Credir bod mwy na 100 o bobl yn dal yn gaeth yn y rwbel ar ol i’r adeilad 17 llawr ddymchwel yn y daeargryn fore Sadwrn.
Roedd yn mesur 6.4 ar y raddfa Richter.
Mae amheuon bellach wedi cael eu codi am y ffordd y cafodd yr adeilad ei godi yn 1989, ac mae llywodraeth Taiwan wedi addo cynnal ymchwiliad.
Dywed y llywodraeth yn ninas Tainan bod 170 o bobl eisoes wedi cael eu hachub o’r adeilad.