Mae angen mynd i’r afael â bwlio a gwella cymorth iechyd meddwl, ynghyd a mwy o leoedd i chwarae, a gwella amddiffyniad rhag trais a chamdriniaeth – dyna ganlyniadau un o’r ymgynghoriadau mwyaf i les plant a phobol ifanc Cymru.
Bu mwy na 7,000 o blant a phobol ifanc, rhwng 3 ac 18 oed, yn cymryd rhan yn ymgynghoriad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.
Yn eu plith, roedd nifer o grwpiau nad sy’n cael cyfle i gymryd rhan fel arfer, gan gynnwys plant ifanc iawn, rhai sydd yn yr ysbyty, yn y ddalfa, neu’n ddigartref.
Yn ei sgil, mae’r Comisiynydd Plant wedi penderfynu blaenoriaethu chwe maes i wella ar gyfer 2016-19.
Mae’r rhain yn cynnwys gwella cymorth iechyd meddwl a mynd i’r afael â bwlio; lleihau tlodi ac anghydraddoldebau cymdeithasol; datblygu ardaloedd chwarae; gwella diogelwch yn y gymuned, yr ysgol a’r cartref; cynyddu ymwybyddiaeth o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a sicrhau cefnogaeth i bobol ifanc sydd angen gofal parhaus.
“Bydd Cymru’n gryfach os caiff ei holl ddinasyddion gyfle i chwarae eu rhan. Mae barn bwysig gan blant, ac mae rhaid gwrando arnyn nhw,” meddai Sally Holland.
‘Codi llais’
Erbyn 2019, mae’r Comisiynydd yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at gyflawni gwelliannau i blant.
“Bydda i’n ceisio dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth y Llywodraeth a newid eu ffurf fel eu bod yn cyflawni ym maes hawliau plant. Bydda i’n helpu plant a phobl ifanc sydd heb dderbyn eu hawliau ac yn ceisio ymdrin â goblygiadau systemig achosion o’r fath, gan herio gwasanaethau i wneud yn well yn y dyfodol,” meddai Sally Holland.
“Mae llawer o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn byw bywydau diogel, hapus ac actif, ac yn teimlo bod yr oedolion o’u cwmpas yn gwrando arnyn nhw ac yn eu parchu. Serch hynny, mae grwpiau mawr o blant yn dal heb gefnogaeth o’r fath. Os wyf fi i fod yn bencampwr effeithiol yn fy rôl fel Comisiynydd Plant Cymru, mae’n hanfodol mod i’n cael gwybod yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc beth maen nhw’n meddwl dylwn i fod yn codi llais amdano ar eu rhan,” meddai Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.
Yr ymgynghoriad
- Yn y grŵp oedran 3 – 7 oed, fe nododd 49% o blant eu bod am gael mwy o leoedd i chwarae. Nododd 29% eu bod am drechu tlodi, 28% eisiau gwella diogelwch plant, 28% eisiau mynd i’r afael â bwlio a 26% eisiau gwella llesiant emosiynol.
- Yn y grŵp oedran 7-11 oed, fe nododd 55% mai stopio bwlio oedd eu prif flaenoriaeth, 47% yn nodi mai helpu plant a theuluoedd mewn tlodi oedd eu prif flaenoriaeth, gyda 41% yn nodi eu bod am gael ardaloedd mwy diogel i blant.
- Yn y grŵp oedran 11-18 oed, fe nododd 53% mai mynd i’r afael â bwlio oedd eu prif flaenoriaeth.
- I oedolion, gwella’r gefnogaeth o ran iechyd meddwl a lles oedd y flaenoriaeth, gyda 82% o weithwyr proffesiynol a 62% o rieni’n nodi hynny.
Fe ddechreuodd y prosiect Beth Nesa? ym mis Ebrill 2015, yn fuan wedi i Sally Holland ddechrau ar ei swydd newydd fel Comisiynydd Plant Cymru.