Donald Trump
Mae’r biliwnydd dadleuol, Donald Trump wedi syrthio ar y glwyd gyntaf yn y ras arlywyddol i’r Tŷ Gwyn.

Yn y bleidlais gyntaf dros ddewis ymgeisydd y Gweriniaethwyr, fe lwyddodd Ted Cruz, seneddwr o Texas i’w guro yn nhalaith Iowa.

Ymhlith y Democratiaid, roedd y bleidlais rhwng Hillary Clinton a Bernie Sanders yn agos iawn ond  Clinton ddaeth i’r brig o drwch blewyn gyda 49.9% o’r bleidlais a 49.6% i Sanders.

Mae buddugoliaeth Ted Cruz yn ergyd fawr i ymgyrch Donald Trump, sydd wedi hollti’r wlad yn ddwy gyda’i sylwadau dadleuol ar fenywod a lleiafrifoedd ethnig.

Er bod Donald Trump wedi dod yn ail yn Iowa, dim ond ychydig ar y blaen o’r Seneddwr Marco Rubio, mae’r bleidlais wedi costio’n fawr iddo, gan golli momentwm ar gyfer y rownd nesaf.

Bydd y bleidlais nesaf yn cael ei chynnal yn New Hampshire ar ddydd Mawrth, 9 Chwefror.