Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect gwerth £1.5 miliwn i ddatblygu diwydiannau Cymru drwy gynnig cyfres o gyrsiau hyfforddiant.
Daw’r buddsoddiad yn dilyn cyhoeddiad gan y Prif Weinidog fis diwethaf y byddai £7.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi i sefydlu canolfan ymchwil peirianneg uwch TWI Ltd ym Mhort Talbot.
Fe fydd 30 o gwmnïau diwydiannol Cymru yn elwa o’r hyfforddiant dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys Tata Steel, y Bathdy Brenhinol ac Oceaneering.
Mae’r rhaglen hyfforddi yn cynnwys buddsoddiad gwerth £1.1 gan yr Undeb Ewropeaidd. Yn ôl y Gweinidog Cyllid a Busnes, Jane Hutt, bydd y cynllun yn helpu mwy na 360 o weithwyr cyflogedig i ennill cymwysterau ym maes deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch.
“Mae dros £350 miliwn o arian Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi dros y pum mlynedd nesaf i wella sgiliau’r gweithlu er mwyn helpu i ysgogi twf busnesau a chreu swyddi yn y sector bwysig hon,” ychwanegodd Jane Hutt.
‘Hybu sgiliau’
Caiff y cynllun Addysg Hyfforddiant a Dysgu Deunyddiaeth a Gweithgynhyrchu (METaL 2) ei redeg o dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
Gall pobol o bob cwr o Gymru fanteisio arno, ac mae’n cynnig cyfle i ddysgu mwy am beirianneg deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch.
“Bydd y cynllun yn gwella perfformiad y cwmnïau sy’n cymryd rhan drwy hybu sgiliau a fydd yn helpu i sicrhau ymateb cynt a gwell i broblemau gweithredol a datblygu cynnyrch newydd,” meddai Jane Hutt.
‘Cystadlu mewn marchnad brysur’
“Bydd yr hyfforddiant yn fuddiol i ddiwydiant hefyd gan y bydd yn sicrhau bod gan staff yr wybodaeth gywir i gystadlu mewn marchnad brysur,” meddai Dr David Warren, Rheolwr Prosiect METaL 2.
“Bydd yn eu helpu i symud o lefel isel o sgiliau a chynhyrchiant, i sicrhau gallu gweithgynhyrchu uwch wedi’i adeiladu ar sgiliau uwch.”
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe a champws Gwyddoniaeth ac Arloesi sydd wedi derbyn buddsoddiad o £450m gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn datblygu eu staff drwy’r cynllun gael rhagor o wybodaeth yma.