Mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno rhaglen gwrth-fwlio newydd i ysgolion, sy’n seiliedig ar raglen o’r Ffindir.

Mae KiVa yn rhaglen sydd wedi’i hanelu at blant rhwng saith a phymtheg oed ac yn seiliedig ar ymchwil sy’n dangos sut gall pobol neu blant eraill effeithio ar ymddygiad bwlio.

Mae’r rhaglen yn cynnig hyfforddiant, adnoddau, gwersi dosbarth, gweithgareddau ar-lein, cefnogaeth a chyngor i rieni fynd i’r afael ag ymddygiadau’n ymwneud â bwlio.

Ar hyn o bryd, Prifysgol Bangor yw’r unig ganolfan yn y Deyrnas Unedig sydd â thrwydded i gyflwyno rhaglen o’r fath.

‘Cyfrifoldeb ar ysgolion’

Yr Athro Judy Hutchings sydd wedi cyflwyno’r rhaglen ar sail tystiolaeth Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor.

“Roedd y sefyllfa yn y Ffindir yn debyg i’r sefyllfa yma, lle mae’r cyfrifoldeb ar ysgolion unigol i gynllunio eu cynlluniau gweithredu eu hunain i ymdrin â bwlio,” esboniodd.

“Fodd bynnag, dangosodd ymchwil dros gyfnod o ddeng mlynedd, nad oedd y dull gweithredu hwnnw wedi llwyddo i newid lefelau’r bwlio a gâi eu hadrodd gan blant,” meddai’r Athro Judy Hutchings.

Am hynny, fe lwyddodd tîm Prifysgol Bangor ac Uned Ymchwil Cymdeithasol Dartington i sicrhau grant gan Gronfa Arloesi’r Loteri Fawr i gynnal cynllun KiVA yng Nghymru.

‘Gwell dealltwriaeth o fwlio’

Mae 70 o ysgolion o Gymru, a thros y ffin yn Lloegr, wedi mabwysiadu’r cynllun KiVa.

“Ar ôl dwy flynedd, mae rhaglen KiVa  wedi cael effaith positif ar fwlio yn yr ysgol,” meddai Dave Edwards, Pennaeth Ysgol Penmorfa, Prestatyn.

“Mae gennym bellach weithdrefnau clir i sefydlu beth sy’n cyfrif fel ymddygiad bwlio a beth sydd ddim. Mae gan ein disgyblion gwell dealltwriaeth o fwlio ac maent yn medru ymateb yn well. Maent yn dysgu sgiliau’n ymwneud ag empathi, datrys gwrthdaro a chyfrifoldeb cymdeithasol.”

‘Parchu eraill’ 

Fe ddywedodd Huw Edwards Jones, Dirprwy Bennaeth Ysgol Llanllechid fod yr ysgol wedi sylwi fod y disgyblion yn ymateb yn dda i’r gwersi am “fod yn aelod o dîm, parchu eraill, dysgu am emosiynau, rhyngweithio a’r pwysau sydd ar rywun wrth fod yn rhan o grŵp.”

“Fel rhan o’r rhaglen, mae’r gwersi wedi rhoi dull gweithredu cadarnhaol inni ymdrin â bwlio y gall yr ysgol gyfan ei chroesawu.”