Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff babi newydd oedd wedi cael ei ganfod ger ystâd ddiwydiannol yng Nghasnewydd.

Mae’r farwolaeth yn dal i gael ei thrin fel un nad oes posib ei hesbonio ar hyn o bryd a phrif bryder yr heddlu yw dod o hyd i’r fam.

Roedd canlyniadau’r post mortem a gynhaliwyd ddoe yn dangos fod y babi wedi cael ei eni ar gyfnod llawn y beichiogrwydd.

Apêl fideo

Mae Heddlu Gwent bellach wedi cyhoeddi fideo yn apelio ar y fam i gysylltu â nhw.

“Dwi am i chi wybod y gallwch fy ffonio neu decstio, gallaf gynnig yr holl gymorth gallai fod angen arnoch,” meddai’r swyddog sydd yn cael ei hadnabod fel Lucy yn y fideo.

“Rydym yn awyddus i ddod o hyd i enw ar gyfer eich babi, efallai eich bod chi wedi enwi’r babi’n barod, ac y byddech am ddweud wrtha’ i? Rwy’n gwybod eich bod yn poeni am eich babi, am eich bod wedi lapio eich un bach mewn tywel.”

Maen nhw’n gofyn i’r cyhoedd beidio â ffonio’r rhif sy’n cael ei grybwyll yn y fideo o dan unrhyw amgylchiadau, er mwyn cadw’r llinell yn rhydd i’r fam gysylltu.

Ni fydd yr heddlu yn cadarnhau unrhyw wybodaeth bellach am y babi ar hyn o bryd, cyn i’r fam gysylltu.