Mae BP wedi cyhoeddi gostyngiad sylweddol yn ei elw yn sgil y gostyngiad mewn prisiau olew.
Fe gyhoeddodd y cwmni olew golledion o £1.5 biliwn am y pedwerydd chwarter ar ôl i’w busnes ddioddef wrth i brisiau olew crai ostwng.
Dyma’r golled fwyaf i’r cwmni ers 20 mlynedd ac mae BP wedi cyhoeddi y bydd yn cael gwared a 3,000 o swyddi erbyn diwedd 2017.
Mae hyn yn ychwanegol i’r 4,000 o ddiswyddiadau a gafodd eu cyhoeddi y llynedd.
Roedd ei elw wedi gostwng 51% i £4.1 biliwn yn 2015.