Carles Puigdemont, arweinydd Catalwnia
Mae miloedd o brotestwyr wedi ymgynnull yng Nghatalwnia i brotestio yn erbyn ymdrechion gwleidyddion i sicrhau annibyniaeth oddi wrth Sbaen.

Yn ystod y brotest yn Barcelona, galwodd y pleidiau gwleidyddol sy’n bleidiol i Sbaen am derfyn ar roi pwysau ar y llywodraeth i ildio i’r alwad am annibyniaeth.

Ymgasglodd miloedd o bobol yn Sgwâr Sant Jaume i ddadlau bod y frwydr dros annibyniaeth i Gatalwnia yn eu hamddifadu o’u hunaniaeth.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Sifil Catalan, Rafael Arenas fod cefnogwyr annibyniaeth yn “ceisio dwyn Sbaen oddi arnon ni”.

Ychwanegodd mai “annoeth” fyddai ymwahanu oddi wrth Sbaen mewn cyfnod pan fo cynifer o broblemau yn Ewrop.

Pan gafodd ei ethol yn arweinydd newydd Catalwnia ar Ionawr 10, dywedodd Carles Puigdemont ei fod yn benderfynol o barhau â’r frwydr dros annibyniaeth.