Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith sy’n trafod y gwersi y gall Cymru eu dysgu o’r sefyllfa yng Nghatalwnia


Mae gobaith o’r diwedd y caiff y cenedlaetholwyr Catalwnaidd a drefnodd refferendwm annibyniaeth yn 2017 eu rhyddhau o’r carchar. Daeth y cyfle wrth i Pedro Sánchez, Prif Weinidog dros dro Sbaen, a’i blaid sosialaidd ddod i gytundeb gyda Carles Puigdemont, arweinydd Junts per Catalunya, plaid genedlaethol Catalwnia.

Yn sgil hyn caiff Sánchez fwyafrif yn senedd Sbaen, a chaiff y cenedlaetholwyr eu rhyddhau. Roedd eu carcharu’n weithred enbyd, gan na fu unrhyw drosedd ond torri rheolau tybiedig cyfansoddiad Sbaen. Mae’n syfrdanol mor dawedog y bu arweinwyr gwladwriaethau mawr Ewrop ar y pryd, a Ffrainc, yr Eidal a Phrydain i gyd yn ofni y gallai eu gwladwriaethau hwy chwalu pe caniateid pleidlais annibyniaeth yn y gwledydd oddi mewn iddynt. Mae angen cofio mai corff yn diogelu eu gwladwriaethau yw’r Undeb Ewropeaidd.

Yn sgil y ddealltwriaeth newydd rhwng Sbaen a Chatalwnia, tybed pa effaith gaiff hyn ar iaith addysg yng Nghatalwnia?

Ers i Gatalwnia ennill mesur o ymreolaeth yn 1979 – yr union flwyddyn y gwrthododd pobol Cymru hyn i’w gwlad – aethpwyd ati i sefydlu system addysg oedd yn rhoi’r lle blaenaf i Gatalaneg. Byddai Catalaneg a Chastileg yn cael eu dysgu i bob disgybl, ond Catalaneg fyddai’r prif gyfrwng dysgu, ar ôl degawdau o gael ei gwahardd.

Ddigwyddodd hyn ddim yn llwyr ledled y wlad, gan fod prinder athrawon addas ar y cychwyn a bu peth anniddigrwydd, ond aeth y polisi yn ei flaen. Fodd bynnag, cynyddodd y gwrthwynebiad yn Sbaen wrth i bleidiau’r asgell dde ddod yn fwyafrif. Barnodd Goruchaf Lys Sbaen ar Dachwedd 18, 2021 fod rhaid i 25% o’r pynciau gael eu dysgu trwy’r Gastileg ym mhob ysgol gyhoeddus yng Nghatalwnia. Erbyn diwedd y flwyddyn, derbyniodd Uwch Lys Cyfiawnder Catalwnia hyn.

Brwydr oesol

Mae hyn yn rhan o’r frwydr oesol rhwng Sbaen a Chatalwnia. Rhan o arfogaeth Sbaen yw ei chyfansoddiad, sy’n nodi na all Catalaneg fod yn brif iaith yng Nghatalwnia, na Valencia na’r Ynysoedd Balearig, o ran hynny. (Mae Valencia yn rhoi’r enw Valenceg ar ei hiaith ac ar y cyfan am ei hystyried yn iaith ar wahân, er nad oes fawr wahaniaeth rhyngddi a Chatalaneg.)

Mae erthygl yn El Temps, Tachwedd 4, a gefais trwy law Ioan Talfryn, yn disgrifio sut mae pleidiau’r asgell dde eithafol, PP (Plaid y Bobol) a Vox, gafodd lwyddiant mewn etholiadau diweddar, am rannu ysgolion ynysoedd Mallorca, Menorca ac Ibiza yn rhai Catalaneg neu Sbaeneg. Maen nhw am roi dewis i rieni, a chwalu, yn sgil hynny, y system o ysgolion Catalaneg. Mae perygl yn awr y bydd yr ynysoedd yn cael eu gorfodi i dderbyn system rydyn ni yng Nghymru’n hen gyfarwydd â hi, sef rhannu ysgolion yn ôl cyfrwng dysgu.

Nid yr asgell dde’n unig sy’n gwrthwynebu’r system ysgolion Catalaneg. Un a wnaeth hyn yw Maite Pagazaurtunuda Ruiz, o Wlad y Basg, ac er yn sosialydd, unodd gyda safbwyntiau’r asgell dde gan ddefnyddio mantell hawliau dynol i wrthwynebu polisi ieithyddol Catalwnia.

Meddai hi mewn cwestiwn yn Ebrill 2019 yn Senedd Ewrop fod polisi ieithyddol Catalwnia a’r Ynysoedd Balearig yn torri rheoliadau Llys Cyfansoddiadol Sbaen a datganiadau Unesco ac Unicef:

“Mae polisi ieithyddol rhanbarthol Catalwnia wedi mynd ati’n systematig i dorri hawliau sylfaenol ym maes addysg trwy atal addysg ysgol trwy’r Sbaeneg, sy’n iaith swyddogol gydradd ac yn famiaith y rhan fwyaf o’r boblogaeth.”

Mallorqui – a’r Gymraeg yn briod iaith Cymru

Pan o’n i yn Mallorca eleni, cwrddais ag un oedd yn gryf o blaid iaith ei gartref, Mallorqui, gan fynnu ei bod yn iaith wahanol i Gatalaneg. Ond barn arall yw mai tafodiaith o Gatalaneg yw hi. Bernir bod yn agos at hanner y boblogaeth yn siarad ffurf ar Gatalaneg yn y cartref. Yn ogystal â bod yn iaith cyfrwng addysg, mae ei hangen ar gyfer swyddi cyhoeddus. Dywedir mai Sbaeneg yw iaith gyntaf y mwyafrif yn ardal y brifddinas Palma, a Chatalaneg, neu Mallorqui, fel arall. Yr ateb amlwg i Maite Pagazaurtunuda Ruiz yw bod yr ymdrech i adfer y Gatalaneg ond yn gwneud iawn am y modd y dioddefodd ormes gwleidyddol ac economaidd. Nod Catalwnia yw gwneud yr iaith yn iaith ‘normal’ unwaith eto, sef yn brif iaith y wlad fel y bu am ganrifoedd. Heb system addysg ieithyddol gadarn, bydd iaith y wlad yn agored i bob math o wyntoedd croes. Dylai polisi addysg Cymru fabwysiadu nod tebyg, sef gwneud y Gymraeg yn brif iaith Cymru.

Rydyn ni’n gwybod mor anodd yw cael twf mewn ysgolion Cymraeg. Onid yw’r amser wedi dod i ni gyflwyno system addysg lle mae pob ysgol newydd yn ysgol Gymraeg? Dangosodd ysgolion Catalwnia a’r ynysoedd sut mae gwneud hyn. Mae bil addysg Gymraeg ar y gweill, a dylai’r bil gynnwys hyn yn nod.


Manteisiwyd ar: