Mae Taith Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith wedi gadael Caernarfon am Gaerdydd, wrth i Hywel Williams rybuddio am bwysigrwydd diwygio’r farchnad dai agored.
Roedd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon ym Maes Caernarfon ar gyfer dechrau’r daith heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 10), gan rybuddio y gallai Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn San Steffan ymyrryd yn y broses.
Yn ystod y daith ledled cymunedau Cymru, bydd aelodau o weithgor Nid yw Cymru ar Werth yn trafod yr argyfwng tai gyda’r rheiny sy’n ei brofi’n uniongyrchol o ddydd i ddydd.
Bydd y daith yn ymweld â chymunedau ar hyd a lled Cymru i gasglu tystiolaeth fideo gan unigolion a chymunedau sy’n profi niwed y farchnad dai agored.
Bydd sgyrsiau am enghreifftiau o arferion da a mentrau cymunedol sy’n mynd i’r afael â’r heriau hynny drostyn nhw eu hunain.
Bydd nifer o’r enghreifftiau yn cael eu rhannu yn sesiwn agoriadol cynhadledd ‘Yr Hawl i Dai Digonol – Beth sy’n Bosibl yng Nghymru’ Cymdeithas yr Iaith yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Iau (Tachwedd 16).
Y farchnad dai agored, “yn amlwg i bawb, wedi methu”
“Mae pobol ar lawr gwlad yma yn Arfon ac ar draws Cymru yn teimlo effaith niweidiol y farchnad dai agored, sydd yn amlwg i bawb wedi methu,” meddai Hywel Williams.
“Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i gywiro’r diffygion hyn a sicrhau bod y farchnad dai yn gweithio er budd pobol leol.
“Ar yr un pryd, rhaid bod yn wyliadwrus o Lywodraeth yn San Steffan sy’n fwyfwy parod i ymyrryd mewn materion datganoledig.”
Yn ôl Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, maen nhw’n “awyddus i roi llais i’r rhai sy’n profi effeithiau marchnad da sy’n trin eiddo fel ased yn hytrach na chartref, ac i’r rhai sy’n mynd ati i leddfu effeithiau’r farchnad dai yn eu cymunedau”.
“Wrth lunio’u polisi tai, rhaid i’n Llywodraeth wrando a deall pryderon go iawn ar lawr gwlad a’r alwad gref am ddiwygiadau i’r farchnad dai agored,” meddai.
“Mae’r cwymp yn y nifer o siaradwyr Cymraeg a ganfuwyd gan ganlyniadau’r cyfrifiad y llynedd, a’r all-lifiad o bobol ifanc o’n cymunedau gwledig yn brawf o’r angen i wneud hyn a chreu cymunedau sefydlog, ffyniannus.”