Ar drothwy’r ŵyl Hindwaidd Diwali, mae Ysgol Bro Teifi yn dweud ei bod hi’n bwysig bod plant Cymru’n cael “gwybod fod yna grefyddau gwahanol o gwmpas”.
Mae Diwali’n dathlu buddugoliaeth goleuni dros dywyllwch, a daioni dros ddrygioni, ac fe fydd yn cael ei ddathlu gan Hindwiaid ledled y byd y penwythnos hwn.
Mae’n cael ei hystyried yn ŵyl hapus llawn dathlu, ac yn aml caiff lampau neu dân gwyllt eu cynnau fel arwydd o obaith i’r ddynoliaeth.
Mewn mytholeg Hindŵaidd, mae’r ŵyl yn dathlu dychweliad yr Arglwydd Rama wedi iddo ladd y diafol Ravana.
Eleni, caiff yr ŵyl ei dathlu ddydd Sul, Tachwedd 12, gydag aelwydydd ledled y byd yn cynnal dathliadau personol gyda’u teuluoedd.
Bydd dathliadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ledled Cymru hefyd er mwyn dathlu’r ŵyl.
Dathliadau’r brifddinas
Teml Shree Swaminarayan yn Grangetown, Caerdydd yw teml Hindŵaidd gyntaf a mwyaf Cymru.
Eleni, mae’r deml yn cynnal pum digwyddiad dros gyfnod Diwali.
Mae’r dathliad cyntaf yn digwydd heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 10), gyda digwyddiadau pellach bob dydd hyd at Dachwedd 15.
Nos Sul (Tachwedd 12), bydd noson Diwali yn cael ei chynnal yn Neuadd Prichard-Jones ym Mangor gyda goleuadau, dawnsio, cerddoriaeth a bwyd traddodiadol.
Ddydd Llun (Tachwedd 13), bydd cyfle i greu cardiau LED yn Rhydaman, er mwyn dathlu ‘gŵyl y goleuni.’
Perthynas Cymru ac India
Gan fod 2024 yn flwyddyn Cymru yn India, mae arwyddocâd newydd i’r dathliadau i nodi’r berthynas rhwng diwylliant y ddwy wlad.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y cynlluniau ar gyfer y cynllun economaidd Cymru yn India yn nigwyddiad swyddogol Llywodraeth India yng Nghaerdydd nos Iau (Tachwedd 9).
Mae disgwyl y caiff y cynllun ei lansio yng Nghaerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi, gyda digwyddiadau i ddilyn yn ninasoedd Delhi, Mumbai a Bengaluru.
Roedd y Gweinidogion Eluned Morgan a Vaughan Gething hefyd yn bresennol yn y digwyddiad gafodd ei drefnu gan Raj Aggarwal, Conswl Anrhydeddus India yng Nghymru.
“Mae hwn yn gyfle gwych i atgyfnerthu ein perthnasoedd er mwyn sicrhau mwy o gydweithredu yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.
Astudiodd Raj Aggarwal ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae’n croesawu’r ffaith fod cynifer o fyfyrwyr Indiaidd yn astudio yng Nghymru heddiw.
“Rwy’n falch o weld myfyrwyr Indiaidd yma heno sy’n mynychu pob un o’r wyth prifysgol yng Nghymru,” meddai.
“Ar hyn o bryd, mae dros 2,200 o fyfyrwyr Indiaidd yn astudio ar gyfer graddau ym mhrifysgolion Cymru, a chynnydd o dros 200% ers 2016, sy’n dod â thua £200m o refeniw i’n sefydliadau addysgol.
“Roeddwn i fy hun wedi graddio o Brifysgol Caerdydd ac mae cymaint o ddyled i mi am yr addysg a gefais yn y wlad hon.”
Dathlu ym Mro Teifi
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’n bwysig cofio bod crefyddau eraill heblaw am Gristnogaeth yng Nghymru, ac mae angen eu dathlu nhw.
Er mai Cristnogaeth yw prif grefydd Cymru, mae angen ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill gaiff eu cynrychioli yng Nghymru, yn ôl dogfen ymgynghori’r Llywodraeth ar grefydd yn rhan o’r cwricwlwm.
Fel siroedd eraill ledled Cymru, mae Cyngor Ceredigion yn sicrhau bod disgyblion y sir yn cael dysgu am amrywiaeth o ddathliadau ac arferion nifer o grefyddau, gan gynnwys Diwali.
“Yn unol â gofynion Cwricwlwm i Gymru, ag yn benodol y Maes Profiad a Dysgu Dyniaethau, mae’n ofynnol bod pob disgybl yn cael cyfleoedd i drafod a dysgu am grefydd, gwerthoedd a moeseg, ac mi fyddai hyn yn cynnwys dysgu am amrywiaeth o ddathliadau crefyddol eraill, gan gynnwys Diwali,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.
Yn ôl Eleri Thornton, sy’n athrawes yn Ysgol Bro Teifi, mae angen i’r plant “wybod fod yna grefyddau gwahanol o gwmpas, boed rhai yn yr ysgol gyda ni neu beidio”.
Mae disgyblion Blwyddyn 3 a 4 wedi bod yn brysur yn gwneud gwaith celf i ddathlu Diwali.
“Mae tri dosbarth o fewn Blwyddyn 3 a 4 wedi bod yn brysur ddoe yn creu lampiau Diwa,” meddai wrth golwg360.
“Maen nhw’n sychu ar y funud oherwydd rydym wedi defnyddio clai.
“Dros y penwythnos wedyn, rwy’n gwybod fod Diwali ar ddydd Sul.
“Dydd Llun wedyn, byddwn ni’n gorffen paentio’r lampiau Diwa ac yn darllen stori Rama Sita ar gyfer disgyblion.
‘Rydym yn dathlu’r gwyliau crefyddol mwyaf poblogaidd.
“Efallai gwneud gwasanaeth ac astudio crefyddau gwanhaol ynghyd â Christnogaeth, ac efallai cymharu adeiladau crefyddol neu bethau fel yna.
“Rwy’n credu bod disgyblion angen gwybod beth sy’n digwydd o fewn Cymru a’r byd i gyd.
“Mae eisiau iddyn nhw wybod bod yna grefyddau gwahanol o gwmpas, boed rhai yn yr ysgol gyda ni neu beidio.
“Rwy’n credu ei fod yn bwysig eu bod yn ymwybodol o sut mae pobol yn addoli, efallai gwisgo, y llyfrau crefyddol, yr adeiladau a beth maen nhw’n ei feddwl.”