Mae Liz Saville Roberts, arweinydd y blaid yn San Steffan, wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “wirioneddol falch” o’r menywod sy’n ymgeiswyr yn enw’r blaid, ar ôl i Ann Davies gael ei dewis i fod yn ymgeisydd ar gyfer sedd newydd Caerfyrddin.
Ar hyn o bryd, Ann Davies yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Materion Gwledig ar Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cafodd ei magu yn Sir Gaerfyrddin, ac mae hi wedi bod yn Gynghorydd Sir dros ward Llanddarog ers 2017.
“Mae’n anrhydedd cael fy newis fel ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol,” meddai.
“Rwyf am fod yn llais cryf, profiadol i sefyll yn erbyn yr annhegwch, a’r anghyfiawnder cymdeithasol sy’n cael ei ysgogi gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn ogystal â herio’r Llywodraeth Llafur Cymru ym Mae Caerdydd sy’n esgeuluso ein hardaloedd gwledig yn lawer rhy aml.”
Sedd newydd
Yn dilyn ad-drefnu ffiniau etholaethol, bydd sedd newydd Caerfyrddin yn gweld rhannau o etholaethau presennol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn uno â rhannau o Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, gan ymestyn o Hendy-gwyn ar Daf i Ddyffryn Aman.
Derbyniodd Ann Davies 76 pleidlais, gan drechu Jordan Griffiths, dderbyniodd 40 o bleidleisiau.
Tynnodd y trydydd ymgeisydd, Elin T Jones, ei henw yn ôl ddoe (dydd Iau, Tachwedd 9).
‘Ymgeisydd penigamp’
Mae aelodau Plaid Cymru wedi bod yn croesawu buddugoliaeth Ann Davies ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Llongyfarchiadau i Ann Davies ar gael ei dewis fel ymgeisydd @Plaid_Cymru yng Nghaerfyrddin! Bydd Ann yn ymgeisydd penigamp,” meddai’r arweinydd Rhun ap Iorwerth.
Hefyd yn ei chanmol roedd Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion.
“Llongyfarchiadau i Ann Davies ar gael ei dewis yn ymgeisydd @Plaid_Cymru dros etholaeth newydd Caerfyrddin. Pob lwc Ann!,” meddai.
Dywed y cyn-arweinydd Adam Price ei fod yn “edrych ymlaen” at gydweithio â hi i ennill sedd Caerfyrddin y flwyddyn nesaf.
“Rwyf wrth fy modd bod Ann wedi’i dewis fel ein hymgeisydd yma yn sedd newydd Caerfyrddin,” meddai.
“Edrychaf ymlaen at roi fy nghefnogaeth lawn i Ann a’r ymgyrch etholiadol sydd i ddod, wrth inni edrych i ennill yr hyn sydd bob amser wedi bod yn sedd dyngedfennol i’r blaid.”
Daeth cadarnhad mai Martha O’Neil fydd yr ymgeisydd Llafur ar gyfer yr etholaeth, ond dydy’r Ceidwadwyr Cymreig ddim wedi dewis eu hymgeisydd eto.
Jonathan Edwards o Blaid Cymru enillodd sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn etholiad cyffredinol 2019, tra bod Simon Hart o’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ennill yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Mwy o fenywod wrth y llyw?
Pe bai Ann Davies yn llwyddo i ennill y sedd yn yr etholiad cyffredinol, hi fyddai’r ail fenyw i gynrychioli’r Blaid yn San Steffan.
“Dw i jest mor falch o weld nifer o fenywod da iawn yn dod trwodd fel ymgeiswyr y Blaid,” meddai’r gyntaf, Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, wrth golwg360.
“Mae hyn yn golygu ei bod hi, Llinos Medi a Catrin Wager hyd yn hyn wedi cael eu henwebu am seddi i’r Blaid.
“Felly, dw i’n wirioneddol falch bod hynny’n digwydd.”
Mae hi’n disgrifio Ann Davies fel “ymgyrchydd cryf a chynrychiolydd gweithgar”, gan ddweud ei bod hi’n adnabod ei hardal yn dda oherwydd ei chefndir amaethyddol.
Ar hyn o bryd, mae 224 o fenywod yn Nhŷ’r Cyffredin – yr ail ffigwr uchaf erioed.
Mae hyn yn cyfateb i ryw 35% o’r holl seddi, y tro cyntaf i’r ffigwr fod yn fwy na thraean.
“Mae rhywun yn disgwyl ei fod o oddeutu hanner a hanner dynion a menywod yn ein cynrychioli ni, achos fel yna mae’r boblogaeth,” meddai Liz Saville Roberts.
“Ar un lefel, dw i’n bersonol falch achos dw i wedi bod gyda Ben Lake a Hywel Williams yn cynnal sesiynau yn annog pobol i fod yn ymgeiswyr i’r dyfodol.
“Dim jest annog menywod, ond dw i’n ymwybodol iawn ei bod hi’n gallu bod yn anodd i fenywod gael yr hyder, achos mae yna gymaint yn llai o role models a phobol i’w hefelychu.
“Mae’r angen i annog pobol yn amlycach efo menywod, felly mae gweld y nifer yma yn foddhaol iawn.”