‘Dydi Cymru ddim yn rhy fach nac yn rhy dlawd i fod yn annibynnol’ ydi un o’r negeseuon craidd sy’n cael eu pregethu’n gyson gan ymgyrchwyr dros annibyniaeth. Mae’n debyg, felly, mai dyma fyddai eu hymateb greddfol i sylwadau gan Guto Harri ar Radio Cymru yr wythnos yma.

Roedd y darlledwr blaenllaw, fu’n ymgynghorydd gwleidyddol i Boris Johnson, yn honni y byddai Cymru’n “suddo’n glou iawn” pe byddai’n wlad annibynnol ar hyn o bryd. Roedd yn dadlau hefyd mai’r cam cyntaf tuag at weld Cymru yn sefyll ar ei thraed ei hun fyddai “creu golud economaidd cyn datganoli mwy o bwerau yn wleidyddol”.

Yn sicr, mae’r diffyg rhwng y swm o drethi sy’n cael eu codi yng Nghymru a gwariant cyhoeddus yma yn rhywbeth na ellir ei anwybyddu. Er y gall y sefyllfa fod yn fwy cymhleth nag mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf, does neb wedi llwyddo i ddadlau’n effeithiol a chredadwy nad oes bwlch o’r fath. Mae hyn yn rheswm allweddol pam fod Plaid Cymru, ar hyn o bryd fel ar hyd y blynyddoedd, wedi bod yn gyndyn o ganolbwyntio gormod o’i sylw ar annibyniaeth.

Mae’r hen ddadl fod angen gwella’r economi cyn datganoli mwy o bwerau rywfaint yn fwy simsan. Y ddadl yn erbyn hynny ydi bod ar Gymru angen mwy o bwerau er mwyn gallu creu’r amodau sy’n angenrheidiol ar gyfer twf economaidd. Ac na fydd economi Cymru byth yn ddim byd ond ystyriaeth ymylol i’r wladwriaeth Brydeinig. Gallai llawer o reoliadau newydd ar farchnad gyffredin Brexit Britain hefyd beri rhwystrau ychwanegol.

Ar y llaw arall hefyd, hyd yn oed pe gellid creu’r golud economaidd hwn o dan y gyfundrefn bresennol, does dim sicrwydd y byddai hynny’n arwain at fwy o gefnogaeth i annibyniaeth. Yn wir, gallai llwyddiant o’r fath gael ei ddefnyddio gan rai fel dadl na fyddai angen rhagor o newidiadau cyfansoddiadol.

Mae’r dadleuon hyn ar y ddwy ochr yn cael eu gwyntyllu’n rheolaidd, ac yn annhebygol o newid barn cymaint â hynny o bobol. Yn amlach na pheidio, mae agweddau at annibyniaeth yn dibynnu mwy ar ddiwylliant a hunaniaeth nag ar ddadleuon economaidd penodol.

Clymau economaidd

Ar yr un pryd, mae ystyriaeth arall, sydd lawn cyn bwysiced yng nghyd-destun yr economi ac annibyniaeth, ond sy’n cael ei hesgeuluso i raddau helaeth. Sef, y graddau mae economi Cymru wedi ei chyd-blethu mor drylwyr a thynn ag economi Lloegr. Yn wir, gall y cymhlethdod hwn, os bydd yn parhau, beri rhwystr mwy difrifol na’r bwlch rhwng incwm a gwariant trethi.

Mae’r undod economaidd hwn yn anghyfartal iawn, wrth gwrs, gydag economi Cymru wedi’i thraflyncu i raddau helaeth yng nghrombil economi Lloegr. Is-ganghennau o gwmnïau Seisnig yn hytrach na busnesau cynhenid ac annibynnol Cymreig sy’n ffurfio cyfran lawer rhy uchel o sector preifat Cymru. Dyna yw llawer o’n cyflogwyr, fwy neu lai’r cyfan o’n harchfarchnadoedd a’n siopau cadwyn a phob mathau o fusnesau fel gwasanaethau ariannol.

Byddai pawb yn derbyn bod lle i fasnach ryngwladol ac nad oes disgwyl i holl fusnesau unrhyw wlad gael eu cyfyngu i gwmnïau cynhenid o’r wlad honno.

Ar y llaw arall, mae graddfa’r oruchafiaeth fasnachol Seisnig ar Gymru mor llethol fel y gall oresgyn unrhyw newidiadau gwleidyddol a chyfansoddiadol.

Waeth i rywun heb â dadlau mai rhywbeth i’w ddatrys “ar ôl ennill annibyniaeth” fyddai’r oruchafiaeth economaidd hon. Y gwir amdani ydi bod dyfnder yr undod economaidd rhwng Cymru a Lloegr yn cyfyngu’n ddifrifol ar y graddau o annibyniaeth y gallai Cymru ei gael – waeth pa mor bellgyrhaeddol fyddai unrhyw newidiadau cyfansoddiadol.

Yn sicr, mae’r clymau economaidd presennol yn golygu y byddai gwireddu polisi swyddogol Plaid Cymru o ennill aelodaeth lawn o’r Undeb Ewropeaidd fwy neu lai yn amhosibl.

Mae’n debyg mai’r graddau pellaf o annibyniaeth y gallai Cymru ei sicrhau yn y sefyllfa economaidd bresennol fyddai parhau mewn undod ariannol, marchnad sengl ac undeb tollau gyda Lloegr. Yn ymarferol, fodd bynnag, ystyr hynny fyddai mai yn Lloegr y byddai’r holl benderfyniadau economaidd ac ariannol yn cael eu gwneud.

Ar ben hynny, wrth gwrs, po dynnaf fo’r clymau economaidd, y lleiaf tebygol fyddai pobl Cymru o gefnogi annibyniaeth yn y lle cyntaf.

Datblygu busnesau cynhenid

I’r sawl sy’n dymuno gweld Cymru annibynnol, dylai fod yn amlwg mai’r cam cyntaf fyddai sicrhau twf sylweddol mewn busnesau annibynnol cynhenid Cymreig.

Mae’n wir nad ydi hyn yn fater hawdd. Ar y llaw arall, does dim rhwystrau cyfreithiol na diffyg pwerau penodol rhag rhoi cychwyn ar hyn o dan y drefn gyfansoddiadol bresennol. Mae galluogi Cymru i sefyll ar ei thraed ei hun yn economaidd hefyd yn rhywbeth y gellid denu cefnogaeth eang iddo – hyd yn oed gan rai na fyddai’n cefnogi annibyniaeth lawn. Gall pawb weld mantais economi fwy gwydn a chynaliadwy i Gymru.

Mae’r hyn ddylai fod yn flaenoriaeth genedlaethol felly yn rhywbeth y gellid denu cefnogaeth fwyafrifol iddo.

Wrth gwrs fod angen cyflogwyr mawr rhyngwladol fel Tata ac Airbus, ond mae tyfu’r sector o gwmnïau cynhenid Cymreig lawn cyn bwysiced hefyd.

Ychydig iawn o arweiniad a gweledigaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddangos yn hyn o beth ers cychwyn datganoli, ac mae Guto Harri yn llygad ei le fod angen i’r aelodau seneddol ddangos mwy o uchelgais.

Hyd yn oed mewn sectorau sydd wedi eu clustnodi fel sectorau twf, cwmnïau o Loegr yn aml sy’n prynu ein tir i osod melinau gwynt a phlannu coed. Mae pob meddiant o’r fath yn clymu Cymru’n dynnach o hyd wrth Loegr. Mwy difaol fyth, wrth gwrs, fyddai unrhyw gynlluniau i godi gorsafoedd niwclear yn Wylfa a Trawsfynydd. Gwasanaethu gofynion ynni a milwrol Lloegr fyddai eu prif swyddogaeth, hyd yn oed pe bai Cymru’n dod yn annibynnol, fel mae’r Aelod o’r Senedd Mabon ap Gwynfor wedi ei ddangos.

Maes arall sy’n dioddef goruchafiaeth Seisnig lethol yw twristiaeth. Yma hefyd, mae pob mathau o gwmnïau o’r tu allan i Gymru wedi cael grantiau hael sy’n golygu nad yw Cymru na’r gymdeithas leol ar yr atyniadau sy’n cael eu datblygu. Heb sôn am y miliynau sy’n mynd ar goll efo mentrau sy’n mynd i’r wal fel Surf Snowdonia yn nyffryn Conwy.

Dechrau yn y gorllewin

Yn ogystal â Llywodraeth Cymru, mae gan gynghorau lleol hefyd ran bwysig i’w chwarae mewn datblygu economi fwy Cymreig.

A’r man cychwyn amlwg fyddai siroedd y gorllewin sy’n rhan o gynllun Arfor a lle mae’r cynghorau o dan reolaeth Plaid Cymru.

Yn yr ardaloedd hyn, mae cael rhagor o fusnesau Cymraeg a Chymreig yn holl bwysig i’w hunaniaeth a’u diwylliant yn ogystal ag yn economaidd.

Nid digon ydi creu’r amodau lle gallai busnesau o’r fath gychwyn a ffynnu – mae angen mynd ati o ddifrif i annog y math o ddatblygiadau sydd eu hangen.

Mae dwy enghraifft yng Ngwynedd ar hyn o bryd sy’n dangos hyn yn glir.

Yng Nghaernarfon yn ddiweddar, bu’n rhaid i gwsmer gwyno ar ôl cael ymateb sarrug wrth ofyn am bastai yn Gymraeg mewn siop Greggs sydd newydd agor ar brif stryd y dref. Mae’n sicr o godi cwestiynau am effeithiolrwydd deddfwriaeth dros y Gymraeg os ydi sefyllfa o’r fath yn gallu codi. Cwestiwn pwysicach na hynny, fodd bynnag, ddylai fod: pam fod Greggs yn agor siop yng Nghaernarfon yn y lle cyntaf? Mae digon o bobol yng Ngwynedd allai wneud sosej rôls a phasteiod – ond a oes ymdrechion gwirioneddol yn cael eu gwneud i annog busnesau cynhenid o’r fath?

Ym Mhwllheli, mae menter leol ar y gweill i brynu gwesty’r Tŵr yn y dref, ond heb allu codi digon o arian eto. Dyma eto enghraifft berffaith o achos lle mae angen i gynghorau ac asiantaethau cyhoeddus arwain ymdrechion i adfywio a gwarchod canol tref gwbl allweddol i ddyfodol y Gymraeg.

Oni bai bod ymdrechion gwirioneddol yn cael eu gwneud i gefnogi mentrau fel hyn, cwmnïau cadwyn o Loegr fydd yn cymryd drosodd ein busnesau. Canlyniad anochel hyn fydd gwneud pobman yn debycach i ‘Anytown UK’, gan ddifetha hunaniaeth a thynhau clymau economaidd Cymru a Lloegr yr un pryd.

Mewn sefyllfa o’r fath, dydi hi ddim yn afresymol disgwyl i’n cyrff cyhoeddus ffafrio mentrau lleol yn hytrach helpu cwmnïau cadwyn Seisnig. Mae pob mathau o ffyrdd o blygu rheolau os ydi’r ewyllys wleidyddol yno. Mae’n fater o edrych ar ôl ein pobol ein hunain yn gyntaf.

Boed er mwyn diogelu hunaniaeth ein cadarnleoedd Cymraeg neu geisio fwy o annibyniaeth i Gymru, mae meithrin twf economaidd annibynnol, cynaliadwy, Cymraeg a Chymreig yn gwbl allweddol i’n dyfodol.