Bydd gweithwyr dur yn gorymdeithio trwy Bort Talbot heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 11) er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r diwydiant.
Mae’r orymdaith wedi’i threfnu gan yr undeb gweithwyr dur Community, wedi iddyn nhw glywed fod clybiau pêl-droed lleol, megis Afan Unedig, yn awyddus i gefnogi’r achos.
“Hysbysebodd grŵp pêl-droed lleol eu bod eisiau dod â rhai timau pêl-droed eraill at ei gilydd er mwyn cefnogi’r gweithwyr dur,” meddai Alun Davies, swyddog cenedlaethol Community.
“Fe wnaethon ni gysylltu â nhw a dweud ein bod ni eisiau trefnu gorymdaith hefyd a byddai’r gweithwyr dur yn dod yno i ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw wedi’i wneud i ni.
“Heb eu cefnogaeth fe fyddai wedi bod yn frwydr fwy fyth.”
Bydd y daith yn cychwyn tua 10:45yb, ac yn mynd ar hyn y promenâd gyda’r prif ddigwyddiad am 11:15yb ar y pier.
Daw hyn wedi i’r cwmni dur Tata ddweud eu bod nhw eisiau datgarboneiddio’r safle gan adael miloedd o swyddi yn y fantol.
Y gymuned yn dioddef
Er bod Alun Davies yn deall pwysigrwydd datgarboneiddio i ddyfodol y diwydiant, dydy e ddim yn credu bod Tata wedi dewis y llwybr cywir, ac mae’n pryderu y byddai’r gymuned yn dioddef pe bai’r cynlluniau’n mynd yn eu blaenau.
“Rydym yn ceisio dangos undod i’r gymuned a’r gweithwyr dur a rhoi gwybod i Tata pa mor bwysig yw’r diwydiant dur i Bort Talbot,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r busnesau lleol yn deall na fyddant yn goroesi os nad yw’r arian yn yr economi i’w wario.
“Mae yna lawer o bobl sy’n bryderus iawn ac maen nhw eisiau cefnogi pobl yn eu cymuned.
“Maen nhw i gyd yn dweud eu bod yn adnabod rhywun sy’n gweithio yno neu’n gweithio i gontractwr yno sy’n cael ei effeithio, mae’n ddiwydiant hanfodol i’r gymuned hon.”
Fodd bynnag, dywed fod gweithwyr dur y tu hwnt i Bort Talbot yn dioddef hefyd.
Mae disgwyl y bydd gweithwyr dur o safle Llanwern yng Nghasnewydd yn ymuno â’r orymdaith hefyd.
“Mae gennym ni’r Aelod Seneddol Jessica Morden yn dod lan o Ddwyrain Casnewydd,” meddai.
“Mae pawb yn deall [bod y niferoedd fydd yn cael eu heffeithio] yn fwy na’r niferoedd mae Tata yn ei ddweud.
“Mae Tata’n dweud mai 3,000 yw’r ffigwr, ond mae e bedair gwaith hynny os ydych chi’n edrych ar gontractwyr ac ati.”