Mae dwy Fenter Iaith ymysg 125 o grwpiau cymunedol sydd wedi derbyn cyfran o £4.75m gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Yn Sir Gaerfyrddin, bydd Menter Cwm Gwendraeth Elli yn defnyddio grant o £10,000 i gynhyrchu fersiwn Gymraeg o’r sioe gerdd Annie gyda disgyblion cynradd ac uwchradd lleol.
Bydd Menter Iaith Môn yn defnyddio £250,000 i ymgysylltu a gweithio â channoedd o oedolion, plant a phobol ifanc ar draws cymunedau yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Fe fydd y prosiect ‘Ein Hanes Ni’ yn rhannu, trosglwyddo a dogfennu hanes a threftadaeth leol ar draws y cenedlaethau, drwy ffilmiau byrion a chylchlythyrau.
”Un o’r amcanion fydd creu cyfle i blant i ofyn cwestiynau i drigolion hŷn pentrefi ledled Ynys Môn i ddarganfod hanes eu hardaloedd lleol, ac ystyried sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd,” meddai Aaron Morris, Swyddog Maes Menter Iaith Môn.
“Bydd y prosiect yn annog plant a phobol i ymweld â gwahanol leoedd yn y pentrefi, trafod yr hanes, a chwilio am wybodaeth goll.
“Bydd y cyfan yn cael ei ddogfennu, ac yn cael ei roi at ei gilydd ar ffurf ffilm fer, ac yna caiff ei dangos i drigolion yr ardal drwy gyflwyniadau arbennig ar ddiwedd y prosiect, fel bod y gymuned gyfan yn buddio.
“Bydd y prosiect yn rhoi llais a llwyfan i hanesion y trigolion hŷn, wrth ysbrydoli’r genhedlaeth iau pa mor bwysig yw rhannu a throsglwyddo gwybodaeth leol.
“Mae’n ymdrech i sicrhau parhad i hanes, iaith a diwylliant y gymuned.”
‘Codi hyder’
Yn Sir Gaerfyrddin, dywed Menter Cwm Gwendraeth Elli ei bod hi’n braf gweld bod cynifer o bobol ifanc eisiau bod yn rhan o weithgaredd Gymraeg tu allan i’r ysgol.
“Mae’n fendigedig gweld yr unigolion yn datblygu sgiliau newydd, yn codi hyder ac yn creu perthnasau newydd – a’r cwbl yn naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai’r Fenter.
Hefyd yn Sir Gaerfyrddin, bydd Lighthouse Library Bookswaps yn sefydlu clwb llyfrau Cymraeg i blant tair i saith oed gyda grant o £9,430, i ddatblygu eu sgiliau a chefnogi eu lles, a derbyniodd Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn £9,590 i gyflwyno sesiynau pontio’r cenedlaethau i oedolion a phlant yn y gymuned.
Crefft yn yr Heliwr
Bydd Tafarn yr Heliwr Cyf yn Nefyn yn parhau i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau dros y flwyddyn nesaf gyda grant o £9,900 gan gynnwys digwyddiadau crefft.
“Mae gallu cynnal digwyddiadau crefft yn yr Heliwr yn wych,” meddai Rhian Parry, gwirfoddolwr sy’n aelod o bwyllgor yr Heliwr, ac sy’n cydlynu sesiynau crefft yno.
“Rwy’n gallu darparu sesiynau i blant ac oedolion heb orfod codi tâl i’r cyhoedd amdanyn nhw.
“Mae’r teuluoedd sy’n mynychu wrth eu boddau’n dod!
“Fyddai llawer ohonyn nhw ddim yn cael profiad gartref o’r hwyl sydd i’w gael gyda chwarae blêr.”
‘Cyfleoedd i bobol ifanc’
Mae rhai o’r grwpiau eraill sy’n derbyn arian yn cynnwys MIND Conwy, Partneriaeth Ogwen, The Glam Youth Choir Organisation yn Rhondda Cynon Taf, a Chlwb Gwyddbwyll Castell Nedd.
“Mae’r Gronfa wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau sy’n dod â phobol ynghyd yn eu cymunedau, creu cysylltiadau cymdeithasol cryfach a helpu i ddatblygu sgiliau newydd,” meddai Ruth Bates, Pennaeth Cyfathrebu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
“Mae’r projectau hyn yn sicr yn gwneud pob un o’r rhain, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
“Mae’n braf hefyd gweld projectau sy’n rhoi cyfleoedd i’n pobol ifanc ni yn y Gymraeg a’r Saesneg.”