Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynnig i’r Senedd er mwyn cydnabod Diwrnod Rhyngwladol y Dynion.

Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal ar Dachwedd 19 eleni.

Gobaith y Ceidwadwyr yw cydnabod “yr heriau meddyliol a chorfforol mae dynion yn eu hwynebu”.

Maen nhw’n nodi mai dynion yw 76% o’r rhai sy’n lladd eu hunain yng Nghymru.

Yn ogystal, mae 35% o ddynion yn credu eu bod nhw wedi dioddef o gyflwr iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.

Mae un ym mhob pedwar dyn yn dweud y bydden nhw’n teimlo’n anghyfforddus yn siarad am eu hiechyd meddwl gyda meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol.

Bydd dadl i drafod y cynnig yn y Senedd ddydd Mercher (Tachwedd 15) am oddeutu 5yh.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld sylw yn cael ei roi i bwysigrwydd y digwyddiad blynyddol rhyngwladol.

Effaith “anghymesur” ar ddynion

Wrth siarad cyn y ddadl, dywedodd James Evans, llefarydd iechyd meddwl a llesiant y Ceidwadwyr Cymreig, fod nodi’r diwrnod yn “hanfodol bwysig”.

“Gyda hunanladdiad yn y lladdwr mwyaf ar gyfer dynion o dan 35 oed, mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n dod at ein gilydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dynion, ac yn cydnabod ac yn mynd i’r afael â’r heriau meddyliol a chorfforol ac iechyd y mae dynion yn eu hwynebu,” meddai.

“Dyna pam rwy’n falch y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal dadl yn y Senedd wythnos nesaf i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion, a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio’n anghymesur ar ddynion.”

Mae’r cynnig, a fydd yn cael ei drafod ddydd Mercher, yn dweud bod y Senedd “yn nodi bod Diwrnod Rhyngwladol Dynion 2023 yn cael ei gynnal ar Dachwedd 19: digwyddiad blynyddol i dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod a mynd i’r afael â’r heriau iechyd meddwl a chorfforol y mae dynion yn eu hwynebu”.