Mae canolfannau cŵn wedi bod yn lleisio’u pryderon wrth golwg360 am reolau newydd fydd yn dod i rym ym mis Chwefror, fydd yn atal pobol rhag bod yn berchen ar gŵn XL Bully.

O Chwefror 1, bydd yn rhaid bod gan berchnogion XL Bully dystysgrif eithrio a bydd angen cadw at reolau llym, gan gynnwys gosod meicrosglodyn ar y cŵn, eu cadw nhw ar dennyn a’u penffrwyno (rhoi muzzle arnyn nhw) mewn mannau cyhoeddus.

Bydd angen i’r cŵn fod wedi’u sbaddu hefyd.

Mae gan berchnogion tan Ionawr 31 i wneud cais am eithriad i’r dystysgrif, ond bydd hi’n anghyfreithlon o Ragfyr 31 i bobol werthu, bridio, gollwng neu roi cŵn XL Bully i ffwrdd i bobol eraill.

Mae hefyd yn golygu na fydd modd cael yswiriant ar gyfer y cŵn.

Effaith broffesiynol a phersonol

Mae pryderon y gallai’r rheolau newydd arwain at bobol yn dewis peidio cadw eu cŵn, ac y gallen nhw gael eu difa.

Yn ôl Alpet Poundies Rescue yn Llandysul, maen nhw’n disgwyl i’r sefyllfa effeithio arnyn nhw “pan ddaw’r amser lladd i rym”.

Mae dynes arall, sy’n gweithio i Almost Home Dog Rescue yn y gogledd ac sy’n berchen ar gi cane corso, yn dweud bod y mesurau a chanllawiau mae’r llywodraeth wedi’u cyhoeddi ar yr XL Bully wedi cael effaith arni hi yn y gwaith ac yn bersonol.

Bydd yn rhaid iddi fynd trwy’r broses gyda’i chi ei hun, ac mae gwaith diflino wedi’i wneud yn y cartref anifeiliaid lle mae hi’n gweithio, sydd wedi cael oblygiadau ariannol ac wedi effeithio ar staff a phobol sydd wedi mabwysiadu’r brid yn y gorffennol.

“Rwy’n gwybod ei fod wedi effeithio arnaf yn bersonol oherwydd bod gen i Cani Corso,” meddai Vikky Savage, un o ymddiriedolwyr Almost Home Dog Rescue, wrth golwg360.

“Rwy’n poeni bod yn rhaid i mi fynd trwy’r broses honno gyda fy nghi i.

“Fel achubiaeth, rydym hefyd wedi cysylltu â phob un o’n mabwysiadwyr blaenorol sydd wedi mabwysiadu bridiau cŵn teirw mawr.

“Rydym wedi estyn allan ac wedi anfon y canllawiau a’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol iddyn nhw, ac rydym wedi cynnig cymaint o gymorth ag y gallwn ei gynnig.

“Felly rydym wedi dweud y byddwn yn rhoi cymaint o help ag sydd ei angen ar [berchnogion] gyda hyfforddiant penffrwyno.

“Byddwn yn helpu’n ariannol tuag at y broses eithrio unwaith fyddwn ni’n gwybod beth yw hynny.

“Mae wedi cymryd llawer o amser ac ymdrech i ni fynd drwy ein mabwysiadwyr blaenorol ac i gynnig yr help a’r gefnogaeth y gallwn.

“Yn amlwg, fel tîm o wirfoddolwyr, mae’n llawer [o waith].

“Teimlwn yn gryf ein bod ni am eu helpu a’u cefnogi gymaint ag y gallwn, oherwydd dydyn ni ddim am weld unrhyw gŵn yn marw’n ddiangen.

“Mae hefyd wedi cael effaith ariannol arnom ni oherwydd i ni dderbyn grant, a phenderfynon ni ddefnyddio hwnnw i gynnig cyfradd rad o feithrin ac ysbaddu eu cŵn i bobol ag XL Bullies.

“Rydym wedi cytuno ar gyfradd gyda’n milfeddyg, rydyn ni wedi dweud os ydyn nhw’n rhoi rhodd o £50 i ni, y byddwn ni’n talu’r gweddill iddyn nhw.

“Rydyn ni wedi defnyddio’r grant hwnnw i helpu cymaint o bobol â phosibl.

“Mae wedi cael effaith eithaf mawr arnon ni hyd yn hyn.”

Methu cynnig cŵn i’w mabwysiadu

Yn ôl Skylor’s Animal Rescue, bydd hi’n anodd anfon cŵn XL Bully allan i gael eu mabwysiadu oherwydd y ddeddfwriaeth.

“Allwn ni ddim cymryd dim i mewn ar hyn o bryd,” meddai’r ganolfan yng Nglannau Dyfrdwy.

“Dydyn nhw ddim yn mynd i adael, a does dim digon o le.

“Dydy’r mwyafrif o bobol ddim eisiau mabwysiadu oherwydd y ddeddfwriaeth yn gwahardd y brîd.”

Mae canolfannau eraill megis Freshfields yng Nghaernarfon yn dweud nad ydyn nhw’n derbyn cŵn yn eu canolfan yng Nghymru, ond eu bod nhw’n derbyn cŵn yn Lerpwl.

Mewn neges ar Facebook, maen nhw’n dweud y bydd y rheolau newydd “yn caethiwo rhai cŵn am weddill eu hoes”.

“Mae gennym ni wyth wythnos yn unig i ddod o hyd i gartref i Sonny, Dexter, Aura a Moose, a’u hatal nhw rhag treulio’u bywydau cyfan mewn cwt yn Freshfields.

“Gallwn gynnig pecyn cymorth hael ar gyfer y cŵn yma.

“Diolch o waelod calon am edrych ar sut y gallwch chi gynnig y cyfle olaf hwnnw i’r cŵn hyfryd hyn.

“Byddwn yn eich cefnogi chi i’w cefnogi nhw gymaint ag y gallwn ni.”