Does gan Heddlu’r Gogledd mo’r adnoddau i fynd i’r afael â’r troseddau mwyaf difrifol, yn ôl adroddiad yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân.

Roedd yr adroddiad yn edrych ar broses chwe llu yn y gogledd wrth iddyn nhw fynd i’r afael â throseddau, gan gynnwys troseddau cyffuriau a manteisio’n rhywiol ar blant.

Heddlu’r Gogledd oedd y gwannaf o’r lluoedd, gyda’r adolygiad yn nodi bod diffyg dealltwriaeth o droseddau difrifol o fewn y llu.

Roedd yn nodi nad oedd rhai aelodau o staff yn sylweddoli bod mynd i’r afael â throseddau wedi’u trefnu yn flaenoriaeth.

Mae’r Prif Gwnstabl Amanda Blakeman wedi “derbyn casgliadau’r adroddiad yn llawn”, meddai.

Mae gan y llu flwyddyn i wneud newidiadau er mwyn gwella’u perfformiad ac i sicrhau bod staff yn deall pwysigrwydd mynd i’r afael â throseddau difrifol.

Dywed y Prif Gwnstabl ei bod yn “siomedig” ynghylch y canfyddiadau, ond fod y llu yn gwneud “newidiadau sylweddol” er mwyn gwella’r ffordd maen nhw’n ymdrin â throseddau.

Dywed hefyd fod angen mwy o adnoddau, ond eu bod nhw eisoes wedi cynyddu nifer y swyddogion sy’n mynd i’r afael â throseddau difrifol.

Ddim yn “hunanfodlon”

Er y feirniadaeth, cafodd y llu ganmoliaeth am y ffordd maen nhw’n mynd i’r afael â throseddau ymysg pobol ifanc a gangiau cyffuriau.

Yn ôl yr arolwg diweddaraf o droseddu yng Nghymru a Lloegr, roedd gostyngiad o 11.3% yng nghyfradd droseddu’r gogledd.

Dyma’r gostyngiad drwy Gymru a Lloegr gyda’i gilydd, lle mae cynnydd cyfartalog o 2.2% ar y cyfan.

“Dydyn ni ddim yn hunanfodlon; fe wnawn ni barhau hefo’n hymgyrchoedd rhagweithiol ni, efo help ein partneriaid,” meddai Amanda Blakeman.

Dywed eu bod nhw am weithio i warchod pobol fregus sy’n cael eu camdrin fel rhan o droseddau trefnedig.

“Fe wnawn ni hefyd wneud yn siŵr fod Gogledd Cymru’n lle sy’n gwrthwynebu’r rhai hynny sy’n achosi’r niwed mwyaf i’n cymunedau ni,” meddai.

“Rydyn ni wedi ymroi i weithredu cynllun er mwyn delio hefo’r newidiadau sefydliadol angenrheidiol er mwyn gwella’r meysydd gafodd eu nodi gan yr Arolygiaeth.”