Bydd uned iechyd meddwl a maes parcio aml-lawr yn cael eu hadeiladu yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi caniatâd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i adeiladu uned iechyd meddwl ar gyfer oedolion a phobol hŷn yn yr ysbyty ar Ffordd Rhuddlan, Bodelwyddan.

Bydd y bwrdd iechyd rŵan yn adeiladu’r uned newydd a’r maes parcio aml-lawr ar ddau ddarn o dir sy’n cael eu defnyddio fel meysydd parcio ar dir yr ysbyty.

Bydd yr uned iechyd meddwl bwrpasol yn lle’r Uned Ablett bresennol.

Yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio ym mhencadlys Sir Ddinbych yn Neuadd y Sir, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid y cais, o ddeunaw pleidlais i un.

Un gwrthwynebydd

Y Cynghorydd John Harland oedd yr unig gynghorydd i bleidleisio yn ei erbyn.

Fe wnaeth o gynnig fod y pwyllgor yn gwrthod y cais, gan fynnu y byddai’r fath uned yn well yng nghanol tref brysur megis y Rhyl neu Fae Colwyn, yn hytrach nag annog pobol i yrru am filltiroedd a niweidio’r amgylchedd.

“Ar ran y grŵp Gwyrdd, mae gen i bryderon am y cais hwn, nid ar sail unrhyw fanylion technegol adeiladu nac angen, ond oherwydd bod hwn yn estyniad pellach gan y bwrdd iechyd o’u cyfleusterau mewn lleoliad ynysig o fewn Sir Ddinbych,” meddai.

“Cafodd safle Ysbyty Glan Clwyd ei ddatblygu gyntaf yn y 1970au, ar adeg pan oedd blaenoriaethau’r gymdeithas rywfaint yn wahanol i’r hyn ydyn nhw rŵan.

“Yn yr oes sydd ohoni, mae gweddillion tanwyddau ffosil gafodd eu defnyddio yn y gorffennol yn eistedd uwch ein pennau ni’n cynhesu ein planed heb unrhyw arwydd o arafu wrth i dymheredd y ddaear godi.

“Mae o filltiroedd i ffwrdd o le mae’r rhan fwyaf o boblogaidd Sir Ddinbych yn byw.”

Anghydweld

Ond fe wnaeth sawl cynghorydd anghytuno, gan fynnu bod gwir angen gwasanaethau iechyd meddwl yn dilyn Covid.

Mae’r Cynghorydd Chris Evans wedi bod yn agored am ei frwydr iechyd meddwl, ac roedd yn dadlau bod angen mawr am y cyfleuster.

“Dw i’n cytuno efo John (y Cynghorydd Harland) i raddau fod diffyg cysylltiadau trafnidiaeth yn broblem, ac mae angen i ni gydweithio fel cyngor,” meddai.

“Ond mae angen hefyd i ni gydweithio fel cyngor i gefnogi’r cyfleuster mawr ei angen hwn yn Sir Ddinbych.

“Mae pawb yn gwybod am fy mrwydr efo iechyd meddwl, a dw i’n eiriolwr mawr dros iechyd meddwl.

“Dydy Ward Ablett ddim yn addas ar gyfer ei phwrpas, a dw i’n nabod pobol sydd wedi bod drwy’r system. Dydy hi ddim yn gweithio.

“Fel mae Huw (y Cynghorydd Hilditch-Roberts) yn ei ddweud, gadewch i ni gael rhywbeth ynghyd sy’n medru ei gwneud hi’n siop-un-stop ar gyfer iechyd meddwl.”

Yr uned

Bydd yr uned newydd yn darparu cyfleuster modern, pwrpasol â 59 gwely, fel rhan o strwythur dau lawr – tri llawr yn rhannol – wedi’i adeiladu mewn cornel yng ngogledd-orllewin campws yr ysbyty.

Bydd adeiladau presennol Uned Ablett yn cael eu cadw i’w gweddnewid ar gyfer gwaith gweinyddol sydd mewn rhan arall o’r ysbyty ar hyn o bryd.

Bydd y maes parcio aml-lawr newydd yn disodli maes parcio llawr gwaelod yng ngogledd-ddwyrain y campws, gan ddarparu tri llawr ar gyfer parcio yn lle’r llefydd gafodd eu colli i’r uned newydd – yn ogystal â chynyddu’r llefydd parcio ar y cyfan yn yr ysbyty.