Mae un o Aelodau’r Senedd wedi cwestiynu pam nad oedd unrhyw un ar banel Question Time neithiwr (nos Iau, Tachwedd 9) yn cynrychioli Llywodraeth Cymru na’r Senedd.

Gyda’r rhaglen wedi’i darlledu o Landudno, roedd tri Aelod Seneddol ar y rhaglen, sef Chris Bryant (Llafur, y Rhondda), Liz Saville Roberts (Plaid Cymru, Dwyfor Meirionnydd) a David TC Davies (Ysgrifennydd Cymru, Ceidwadwyr, Mynwy).

Y ddwy arall ar y panel oedd y gantores opera Camilla Kerslake o Lundain a’r ddarlledwraig a cholofnydd Anne McElvoy o ogledd-ddwyrain Lloegr.

Ymhlith y pynciau gafodd eu trafod roedd effaith y terfyn cyflymder 20m.y.a. ar y gwasanaethau brys, ffracio ym Môr y Gogledd, a sylwadau’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman am ragfarn yr heddlu.

Mae Huw Irranca-Davies, sy’n cynrychioli Ogwr yn y Senedd, wedi cwestiynu proses olygyddol y BBC.

“Felly @bbcquestiontime, sut y gwnaethoch chi lwyddo (eto) i wneud rhaglen gyfan yng Nghymru heb un Gweinidog o Lywodraeth Cymru neu hyd yn oed Aelod o’r Senedd?” meddai ar X (Twitter gynt).

“Dydy e ddim yn dderbyniol.

“Beth yw’ch proses olygyddol yma?”

Cefndir

Mae golwg360 yn deall fod y BBC wedi gofyn yn benodol i Liz Saville Roberts fod ar y panel.

Mae’r rhaglen fel arfer yn cylchdroi rhwng arweinwyr Plaid Cymru yn y Senedd a San Steffan, ac felly mae’n debygol mai Rhun ap Iorwerth fydd yn eu cynrychioli nhw y tro nesaf.

Mae lle i gredu bod y BBC wedi gofyn i’r pleidiau am gynrychiolwyr, a bod y Ceidwadwyr a Llafur wedi cynnig cynrychiolwyr o San Steffan.

Mae golwg360 yn aros am ymateb gan Lafur a’r Ceidwadwyr.