Mae Prif Weithredwr Dŵr Cymru’n dweud bod y cwmni wedi bod yn “agored a thryloyw”, ond ei bod hi’n “anochel” eu bod nhw’n gollwng dŵr sydd heb ei drin.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd wedi bod yn clywed tystiolaeth gan Peter Perry ynghylch adroddiadau o ollwng carthion a llygru dŵr.
“Gyda’r nifer hwnnw o drwyddedau, gyda 36,000 cilomedr o garthffosydd, 830 o weithfeydd carthffosiaeth, 2,500 o orsafoedd pwmpio, a 2,500 o orlifiadau carthffosydd cyfun, mae’n anochel gyda seilwaith amherffaith eich bod chi’n mynd i ddod o hyd i bethau,” meddai.
Er hynny, dywedodd David Black, Prif Weithredwr y rheoleiddiwr Ofwat nad yw Dŵr Cymru mor uchelgeisiol â chwmnïau eraill pan ddaw at leihau gollyngiadau carthion.
Dywedodd fod Dŵr Cymru ond wedi cyrraedd pump allan o ddeuddeg targed ar gyfer eu perfformiad.
Yn ôl Janet Finch-Saunders o’r Ceidwadwyr Cymreig, mae’r cwmni wedi torri eu trwydded 200 o weithiau o fewn chwe blynedd.
‘Dim cynllun’
Dywed David Black y bydd camau’n cael eu cymryd i geisio sicrhau perfformiad gwell gan Dŵr Cymru.
“Canfu ein hadroddiad perfformiad cwmni dŵr diweddar ei fod yn gwmni ar ei hôl hi,” meddai.
“Ni fyddwn yn gadael unrhyw garreg heb ei throi wrth geisio gyrru perfformiad gwell yng Nghymru.
“O’r flwyddyn nesaf, pan welwn gwmnïau sy’n methu â dangos yn ddigonol bod y tâl am eu tîm gweithredol yn gysylltiedig â pherfformiad – byddwn yn ymyrryd.”
Fodd bynnag, dywedodd wrth y pwyllgor nad oes gan Dŵr Cymru gynllun fydd yn sicrhau “gostyngiadau ystyrlon” erbyn 2030.
Buddsoddi £3.5bn
Dywed Peter Perry ei fod yn “siomedig iawn” fod y cwmni wedi’i israddio i ddwy seren, gan addo bod cynlluniau ar y gweill i wneud gwelliannau.
Dywed Mike Davis, prif swyddog ariannol Dŵr Cymru, fod y cwmni am fuddsoddi £3.5bn erbyn 2030.
Dywed y byddai’n hoffi buddsoddi mwy, ond fod yn rhaid ystyried effaith hynny ar filiau eu cwsmeriaid.
“Mae ein biliau yn uchel. Rydym yn gwasanaethu rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn unrhyw le yng Nghymru neu Loegr,” meddai.
“Mae’n rhaid i gynnydd mewn biliau fod yn gydbwysedd i ni ac os edrychwch chi ar y codiadau biliau rydyn ni wedi’u cynnig o gymharu â chwmnïau eraill, maen nhw’n llawer mwy cymedrol.”
Ar hyn o bryd, mae biliau Dŵr Cymru ymhlith y rhai uchaf yng Nghymru.