Mae pedwar glöwr wedi cael eu hachub ar ôl treulio 36 diwrnod yn sownd dan ddaear ar ôl i bwll glo ddymchwel yn China.

Roedd y pwll yn nhalaith Shandong yn nwyrain y wlad wedi dymchwel ar Ddiwrnod Nadolig, gan ladd un a gadael 17 ar goll, gan gynnwys y pedwar a oroesodd.

Roedd 11 o bobol eraill a oedd yn y pwll wedi cael eu tynnu i’r wyneb yn ddiogel ddyddiau ynghynt.

Fe wnaeth achubwyr dynnu’r gweithwyr drwy ddau dwnel a gafodd eu drilio, a chafodd y glöwr cyntaf ei dynnu drwy gapsiwl.

Roedd y pedwar wedi goroesi drwy gael bwyd a dillad wedi’u hanfon iddyn nhw drwy bedwar twnnel bach.

Dau ddydd ar ôl i’r pwll ddymchwel, fe neidiodd y perchennog, Ma Congbo, i mewn i ffynnon a boddi.

Mae pedwar uwch swyddog yn swydd Pingyi, lle mae’r pwll glo, wedi cael eu diswyddo.