Katy Morgan-Davies
Mae arweinydd cwlt Comiwnyddol a dreisiodd dwy o’i ddilynwyr ac a gaethiwodd ei ferch am 30 o flynyddoedd, wedi cael ei garcharu am 23 o flynyddoedd.
Roedd Aravindan Balakrishnan, 75 – oedd yn cael ei adnabod fel y Cymrawd Bala – wedi perswadio ei sect i feddwl ei fod yn dduwiol ac y gallai ddarllen eu meddyliau.
Cafodd ferch gydag un o’i ddilynwyr, Sian Davies o Dregaron, a fu farw ar noswyl Nadolig 1996 ar ôl cwympo o ffenest y tŷ lle’r oedd y cwlt yn byw.
Bwlio seicolegol a chorfforol
Mae’r ferch – Katy Morgan-Davies, sy’n 33 erbyn hyn – wedi penderfynu peidio ag aros yn ddienw, gan siarad am ei phrofiadau o fwlio seicolegol a chorfforol a ddioddefodd dan law ei thad.
“Roedd yn annioddefol, mor ddiraddiol. Roeddwn yn teimlo fel aderyn wedi’i gaethiwo, heb adenydd,” meddai wrth y Press Association.
Mae Aravindan Balakrishnan wedi’i ddedfrydu ar ôl cael ei ddyfarnu yn euog o bedwar achos o dreisio, chwe achos o ymosod yn anweddus, dau achos o achosi niwed corfforol, creulondeb i blentyn dan 16 oed a charcharu ffug.
Roedd y pensiynwr wedi gwirioni â gormeswyr fel Mao, Joseph Stalin, Pol Pot a Saddam Hussein, meddai ei ferch.
Wrth ei garcharu, dywedodd y Barnwr Deborah Taylor: “Mae’r rhain yn droseddau difrifol a gafodd eu cyflawni dros gyfnod hir a dydych chi ddim wedi dangos unrhyw edifeirwch.”
Dywedodd hefyd ei fod wedi trin ei ferch fel “arbrawf”.
Roedd Katy Morgan-Davies wedi llwyddo i ddianc rhag ei thad ar ôl iddi ffonio elusen gwrth-caethwasiaeth.