Mae’r Cyngor Cenhadaeth Fyd-Eang, sy’n cyfrif Eglwys Bresbyteraidd Cymru ymhlith ei aelodau, yn galw am gadoediad ar unwaith ym Mhalesteina.

Mae’r Cyngor, sy’n cynrychioli dros 22m o Gristnogion ledled y byd, yn dweud eu bod nhw’n “condemnio, yn y termau cryfaf, warchae erchyll Israel ar Balesteina feddianedig sydd wedi bod yn dadwreiddio, dadleoli a lladd sifiliaid diniwed ac yn dinistrio eu cartrefi”.

Maen nhw’n cydnabod fod trais gan y milwriaethwyr Hamas yn erbyn sifiliaid wrth ladd a herwgipio pobol yn “annynol”, ond yn dadlau bod gweithredoedd Israel yn erbyn Palesteina, “yn enwedig pobol Gaza, hyd yn oed yn fwy annynol”.

‘Trychinebus’

Mae’r Cyngor yn beirniadu Israel am adleoli 1.1m o bobol, gan ddweud bod y weithred honno’n “drychinebus, gan fygwth bywydau pobol ddiniwed”.

Mae’r argyfwng dyngarol yno’n “ddigynsail”, meddai’r Cyngor, a hynny yn sgil y blocâd llwyr ar nwyddau hanfodol fel bwyd, dŵr, meddyginiaeth a thrydan.

“Mae gwarchae llwyr Gaza, gan arwain pobol ddiniwed yn fwriadol i newyn a marwolaeth, yn drosedd yn erbyn dynoliaeth o dan gyfraith ryngwladol,” meddai’r Cyngor.

“Nid yw’n ddim byd ond hil-laddiad o boblogaeth ddiniwed o dros filiwn.

“Mae’r cylch dieflig presennol o drais yn dangos nad yw llywodraeth Israel yn dangos unrhyw barch at gyfraith ryngwladol a dim gwerth i fywyd dynol.

“Mae’n dangos eu bod yn benderfynol o ddileu holl boblogaeth Palesteina sy’n cael ei meddiannu.

“Mae dioddefaint parhaus y bobol yn Gaza, ynghyd â cholli bywydau diniwed, yn argyfwng dyngarol trallodus sy’n mynnu sylw ar unwaith gan y gymuned ryngwladol.”

Wrth ddadlau bod “rhaid i ni godi ein lleisiau”, maen nhw’n mynnu:

  • Cadoediad ar unwaith a diwedd i’r trais

Dywed y Cyngor ei bod hi’n hanfodol bod Hamas a Llywodraeth Israel yn “gwadu’n ddiamwys unrhyw ymdrechion i ryfel, hil-laddiad, goresgyniad, neu ddefnyddio trais fel modd i ddatrys y gwrthdaro hwn”.

  • Terfyn ar warchae Israel ar unwaith, a chaniatáu danfon a chael mynediad at gymorth dyngarol.

Dywed y Cyngor fod sicrhau mynediad at fwyd, dŵr glân, gofal meddygol a lloches yn “rheidrwydd moesol”.

  • Rhaid i bob plaid gadw at gyfraith ryngwladol, gan gynnwys amddiffyn sifiliaid a’u hawliau dynol, a bod rhaid i Israel gael ei dal yn atebol gan y gymuned fyd-eang am dorri cyfraith ryngwladol trwy’r gwarchae llwyr parhaus.

Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Israel i “atal eu rheolaeth gyson, gwyliadwraeth a thrais yn erbyn sifiliaid diniwed ym Mhalesteina trwy gynnal rhyddid, ymreolaeth ac urddas dynol”.

Rhaid rhoi’r gorau i ddefnyddio llwyfannau cyfryngau digidol i ledaenu gwybodaeth ffug a chasineb at Balesteina, meddai’r Cyngor.

Mae’r Cyngor hefyd yn beirniadu’r Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig, ymhlith eraill sy’n “brif yrwyr yr ymerodraeth filwrol fodern sydd bellach wedi ymuno â’r Undeb Ewropeaidd” am “gynorthwyo a hybu system apartheid ymsefydlwyr Israel yn barhaus”.

“Ymunwn â’r holl leisiau ar draws y byd i adeiladu pŵer pobol i rwystro’r cynlluniau imperialaidd yn y Dwyrain Canol, i atal gwarchae Gaza ac i roi diwedd llwyr ar feddiannaeth Palesteina,” meddai’r Cyngor wedyn.

Llain Gaza

Andrew RT Davies yn galw am oleuo’r Senedd gyda lliwiau baner Israel

Elin Wyn Owen

“Mae’n [rhoi] neges hollol hiliol fod yr Israeliaid yn bwysicach na Phalestiniaid,” medd Ffred Ffransis