Mae Dŵr Cymru wedi cyfaddef eu bod nhw wedi gollwng carthion heb eu trin yn anghyfreithlon o sawl un o’u gweithfeydd trin dŵr.

Er bod gan weithfeydd trin dŵr yr hawl i ollwng carthion pan fyddan nhw’n orlawn, fe wnaeth yr Athro Peter Hammond ddarganfod y bu i nifer o’r gweithfeydd ollwng carthion pan nad oedden nhw’n orlawn hefyd.

Gofynnodd am ddata gan unarddeg safle trin dŵr yng Nghymru, ac fe ddaeth i’r amlwg fod deg ohonyn nhw wedi bod yn gollwng carthion heb eu trin, gan fynd yn groes i’w trwyddedau.

Safle yn Aberteifi oedd y gwaethaf, lle cafodd carthffosiaeth heb ei drin ei ollwng yn anghyfreithlon am gyfanswm cronnol o 1,146 diwrnod rhwng dechrau 2018 a diwedd mis Mai eleni.

Yn ôl adroddiadau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwybodol o broblemau yn Aberteifi ers wyth mlynedd.

Er iddyn nhw roi hysbysiadau gorfodi i’r safle, dydyn nhw ddim wedi dosbarthu unrhyw ddirwyon.

‘Cyfaddefiad ysgytwol’

Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn galw am adolygiad o Dŵr Cymru yn dilyn eu cyfaddefiad.

“Mae hwn yn gyfaddefiad ysgytwol, ac ni all Llywodraeth Cymru osgoi’r mater mwyach,” meddai.

“Mae gennym ni’r biliau ail uchaf ar draws Cymru a Lloegr i gyd, mae penaethiaid y cwmni wedi cael miloedd mewn taliadau bonws, ac ar yr un pryd wedi bod yn dympio carthion yn anghyfreithlon i’n hafonydd.

“Rwy’ wedi arwain galwadau yn y Senedd dro ar ôl tro am gamau llymach ar ddympio carthion, ac am adolygiad llawn o Dŵr Cymru a’u gweithrediad.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru gymryd y galwadau hynny o ddifrif, neu beryglu dyfodol ein hafonydd.”

Ymateb Dŵr Cymru

Dywed Dŵr Cymru fod rhwng 40 a 50 o’u safleoedd trin dŵr gwastraff yn gweithredu’n groes i’w trwyddedau ar hyn o bryd.

Mae’r cwmni’n dweud bod ymdreiddiad dŵr hallt yn effeithio ar gapasiti’r safle.

“Mae’r broses hon, a elwir yn ymdreiddiad dŵr hallt, yn effeithio ar y prosesau trin ar y safle, a gall olygu nad oes gan weithfeydd Aberteifi’r capasiti angenrheidiol i ddelio â’r dŵr gwastraff sy’n dod i mewn i’r safle,” meddai llefarydd.

“Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chontractwyr arbenigol i ddod o hyd i’r ffordd orau o daclo’r ymdreiddiad dŵr hallt.”

Dywed Steve Wilson, rheolwr gyfarwyddwr gwasanaethau dŵr gwastraff Dŵr Cymru, nad ydyn nhw’n “falch o hyn o gwbl”.

“Mae’n sefyllfa anghyfforddus iawn i fod ynddi – ond nid yw e oherwydd diffyg ymdrech,” meddai.

“Rydyn ni wedi bod yn ceisio trwsio hyn.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.