Prin yw’r opsiynau sydd ar gael yng Nghymru i deuluoedd yn y gogledd sy’n ceisio triniaeth IVF, yn ôl Siân Gwenllian, sydd wedi bod yn cefnogi etholwr drwy’r broses.
Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon yn dweud mai dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddiffygion yn y ddarpariaeth iechyd yn lleol, a’i bod yn enghraifft arall o orfod teithio allan o Gymru i gael triniaeth.
Mae hi’n galw am wella arbenigedd yn lleol, a hynny wedi iddi gefnogi etholwr sydd wedi wynebu heriau wrth geisio cael triniaeth IVF.
“Does dim clinig penodol ar gyfer teuluoedd sydd eisiau cael mynd trwy’r broses IVF, cael y driniaeth IVF,” meddai wrth golwg360.
“Does yna ddim clinig penodol yn y gogledd o gwbl.”
Diffyg clinig IVF pwrpasol yn y gogledd yn “gwbl annerbyniol”
Yn ôl Siân Gwenllian, nid dyma’r unig enghraifft o ddiffyg yn y gwasanaeth iechyd lleol.
“Y gwasanaethau IVF yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddiffygion yn y ddarpariaeth iechyd yn lleol,” meddai wrth golwg360.
“Dim ond yn ddiweddar dw i wedi codi’r angen dybryd am uned arbenigol i famau lleol sy’n wynebu problemau iechyd meddwl ar ôl genedigaeth, yn hytrach na gorfod mentro dros y ffin i Loegr.”
Dywed fod problemau wrth geisio ffrwythloni yn gyffredin, ac y dylid darparu gwell cefnogaeth yn lleol drwy famiaith y claf.
“O ystyried bod tua un o bob pedair merch yn wynebu problemau wrth ffrwythloni, mae’n gwbl annerbyniol nad oes clinig IVF pwrpasol yng ngogledd Cymru,” meddai wedyn.
“Nid yn unig mae gofyn i ferched deithio i Loegr am driniaeth yn rhwystr ariannol i lawer, ond mae hefyd yn eu hamddifadu o dderbyn gofal yn eu mamiaith.
“Mae’n hanfodol ein bod yn mynd i’r afael â’r angen dybryd am wasanaethau IVF hygyrch a digonol yn lleol, gan sicrhau bod teuluoedd sy’n wynebu trafferthion wrth ffrwythloni yn gallu cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnyn nhw.”
Gorfod teithio’n bell
Heb glinig IVF yn y gogledd, mae’n rhaid i bobol deithio’n bell i gael triniaeth, ond dydy hynny ddim bob amser yn bosib.
Yn ôl Siân Gwenllian, mae hyn yn rhwystredig ac mae achosion lle mae pobol wedi gorfod teithio nifer o weithiau mewn cyfnod byr.
“Mae teuluoedd angen teithio dros y ffin i Lerpwl, Manceinion, neu i Gaerdydd neu Abertawe,” meddai.
“Unwaith eto, mae rhywun yn teimlo bod teuluoedd sydd yn y gogledd-orllewin dan anfantais.
“Cefais gyfarfod efo un o fy etholwyr yn ddiweddar.
“Roedd hi’n awyddus i mi dynnu sylw at y diffyg yma, ac i mi ddysgu o’r profiadau roedd hi wedi’u cael yn trio cael y driniaeth.
“Ddim y driniaeth yn unig, ond problemau sy’n gallu codi wedyn yn sgil y driniaeth.
“Mae hynny’n ran o’r heriau sy’n wynebu teuluoedd yn y rhan yma o’r byd hefyd.
“I ddechrau, mae’n debyg fod yr opsiwn o deithio i Fanceinion neu Lerpwl jest ddim yn un ymarferol, ddim yn un sy’n bosib i nifer o deuluoedd er y bysen nhw’n licio cael y driniaeth.
“Dydi o ddim yn bosib oherwydd bod o’n ddrud i rywun deithio’n bell, ddim yn ymarferol os oes gan rywun deulu, plant bach ac yn y blaen, ac o ran cael amser i ffwrdd o’r gwaith dydy hynny ddim bob amser yn bosib pan mae rhywun yn gorfod rhoi’r teithio mewn i’r amser mae rhywun yn gorfod cael i ffwrdd hefyd.
“Rwy’ wedi cwrdd â theulu sydd wedi gorfod mynd deuddeg gwaith mewn cyfnod o chwe wythnos ar gyfer cael y driniaeth.
“Os nad oes gennych chi gar, mae hynny’n ychydig o ofyniad ar deuluoedd.”
Sgil-effeithiau IVF
Yn ôl Siân Gwenllian, gall problemau godi wedi’r driniaeth IVF sy’n golygu bod angen arbenigedd yn y gogledd er mwyn ymdopi â hyn.
“Dydy o ddim i gyd am gael y driniaeth,” meddai.
“Oherwydd fod yna ddim arbenigedd yn y gogledd, pan mae pethau’n mynd o’i le ar ôl y driniaeth a bod cleifion angen mynd mewn i’r ysbyty, maen nhw’n mynd i’r ysbyty lleol ond dydy’r arbenigedd ddim ar gael yn y fan yna efo cymhlethdodau sy’n gallu codi efo triniaethau ffrwythlondeb.
“Dydy o ddim yn swnio i fi fel bod hi’n ffordd dda o ddelio efo sefyllfa felly, drwy alwadau ffôn efo’r arbenigwyr yn Lerpwl neu Fanceinion neu Gaerdydd a’r staff yn lleol.
“Rwy’n gwybod bod y staff yn lleol yn gwneud eu gorau glas i ddelio efo problemau, ond mi ddylai bod gennym arbenigwyr ffrwythlondeb yn y gogledd, nid yn unig ar gyfer y clinigau, nid yn unig ar gyfer y driniaeth ei hun, ond os oes yna broblemau yn codi ar ôl hynny.”
‘Diffyg yn y gyfundrefn’
Mae Siân Gwenllian yn credu bod “diffyg yn y gyfundrefn” ar gyfer merched yn y gogledd o ran gwasanaethau a thriniaethau ehangach na IVF hefyd.
“Rwy’n ymwybodol iawn bod yna heriau ariannol, ond wedi’r cyfan, pam ddylai teuluoedd yn y gogledd-orllewin gael eu trin yn wahanol i deuluoedd yn unrhyw le arall?
“Rwy’ wastad yn ymgyrchu dros wella gofal iechyd i bobol yn fy etholaeth i; dyna mae pobol yn fy etholaeth i eisiau i mi fod yn gwneud.
“Dyna pam dwi wedi bod yn ymgyrchu am ysgol feddygol i hyfforddi doctoriaid ym Mangor, a hefyd ar gyfer uned mamau a phlentyn yn y gogledd ar gyfer teuluoedd lleol.
“Mae’r diffyg darpariaeth ar gyfer triniaeth IVF yn enghraifft arall o sut mae yna ddiffyg yn y gyfundrefn, oherwydd mae diffygion ar gyfer merched lleol.
“Os ydy rhywun yn meddwl, mae yna ddau glinig yn y de.
“Mi ddylai fod o leiaf un clinig yn y gogledd, byddai rhywun yn tybio o edrych ar y boblogaeth.”