Mae cwmni cynhyrchu Telesgop wedi cyhoeddi gwefan newydd, Hanes Cymru Ni, sy’n dathlu cyfoeth amrywiaeth hanes Cymru.

Daw hyn yn ystod Mis Hanes Pobol Ddu.

Mae gan y wefan adrannau i blant tair i 16 oed sy’n edrych ar gyfraniadau gan bobol ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol at hanes Cymru.

Yn ogystal â gwybodaeth am bobol, lleoedd a digwyddiadau o bwys, mae hefyd yn cynnwys adnoddau ychwanegol gan gynnwys storïau, monologau, stribed cartŵn, erthyglau papur newydd, clipiau sain a fideos.

O’r de i’r gogledd, yn fenywod a dynion

Mae’r adnodd yn llawn gwybodaeth am nifer o bobol sydd wedi cyfrannu at hanes Cymru – o’r de i’r gogledd, yn fenywod a dynion, o ystod o gefndiroedd gwahanol.

Mae’n cynnwys cymeriadau amlwg fel yr athrawes Betty Campbell a’r athletwr Colin Jackson, a phobol lai adnabyddus fel y garddwr John Ystumllyn, y nyrs Vernester Cyril a’r adeiladwr Lenn Lawrence.

Mae cyfraniadau hefyd gan bobol sydd yn llunio hanes Cymru heddiw, fel y cerddor Dom James, y ddigrifwraig Mel Owen, yr anturiaethwr Richard Parks a’r bardd Hanan Issa.

Yn ogystal â hanes adeiladau fel Castell Penrhyn a Synagog Merthyr, mae gwybodaeth hefyd am ddigwyddiadau pwysig fel Terfysgoedd 1919.

Cafodd y wefan ei chynllunio’n benodol ar gyfer Cwricwlwm Cymru, gan gydweithio’n agos ag athrawon, arbenigwyr addysgol ac aelodau o’r gymuned Ddu, Asiaidd, ac Ethnig Lleiafrifol.

Mae’n cynnig gwledd o adnoddau fydd yn cefnogi athrawon i gyflwyno’r Cwricwlwm Cymraeg newydd.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac fe fydd yn cael ei gynnwys ar wefan addysgol y Llywodraeth, ‘Hwb‘.

‘Agoriad llygad’

Yn ôl Aled Richards, Pennaeth Addysg Telesgop, bu’n “fraint ac yn agoriad llygad” cael gweithio ar y prosiect.

“Rwy’ wedi cwrdd â chymaint o bobol ysbrydoledig, ac wedi dysgu cymaint am gyfraniadau bobol ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i hanes Cymru – pobol doedd gen i ddim syniad amdanyn nhw o’r blaen!” meddai.

“Mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i ni roi’r lle priodol i hanes Cymru yn ein ysgolion, ac mae’n bwysig i ni edrych ar hanes Cymru yn ei gyfanrwydd – nid yn unig trwy lens pobol wyn.

“Mae’n achos dathlu bod ein ysgolion yn aml-ddiwylliannol, ac mae’n hanfodol bod ein hadnoddau addysgol yn adlewyrchu’r amrywiaeth yma, a bod y disgyblion yn gallu uniaethu gyda’r bobol sy’n cael eu cyflwyno iddyn nhw.

“Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yr adnodd yn ysbrydoliaeth i athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm newydd i godi’r llen ar hanes cudd Cymru, ac y bydd e’n gam pwysig ar y siwrne o greu Cymru wrth-hiliol.”