Mae pôl piniwn newydd yn nodi bod 35% o bobol yng Nghymru bellach yn cefnogi annibyniaeth.
Mae’r ffigwr yn codi i 49% ymhlith pobol 35 i 44 oed, yn ôl Redfield & Wilton.
Ymhlith y rhesymau sy’n cael eu cynnig gan bobol sydd eisiau annibyniaeth mae HS2, diffyg rheolaeth dros adnoddau, ac iaith nawddoglyd gwleidyddion San Steffan.
Yn ôl mudiad annibyniaeth Yes Cymru, mae pobol yn dechrau blino ar wleidyddiaeth San Steffan a’r Undeb, ac yn ceisio annibyniaeth fel y ffordd orau allan o’r sefyllfa bresennol mewn “perthynas wleidyddol anghyfartal ac annheg”.
‘Undeb sy’n dirwyn i ben’
Yn ôl Gwern Gwynfil, Prif Weithredwr YesCymru, mae canlyniadau’r pôl piniwn “unwaith eto yn dangos bod dros draean o bleidleiswyr Cymru wedi dod i’r casgliad fod y drefn sydd ohoni ddim yn gweithio, fod San Steffan ddim yn gweithio, bod y Deyrnas Unedig wedi torri”.
“Wrth i gostau byw parhau i gynnyddu, wrth i San Steffan wadu biliynau i Gymru gyda thriciau a chelwydd pan ddaw i HS2, gyda phleidiau San Steffan yn cefnu ar ein cymunedau, daw fwyfwy o bobol i sylweddoli mai annibyniaeth yw’r ffordd orau ymlaen,” meddai.
“Mae’r Deyrnas Unedig yn Deyrnas annheg, mae’n Deyrnas sy’n dal Cymru a phobol Cymru yn ôl, yn eu hatal rhag cyflawni eu potensial.
“Dyma undeb a’i chyfnod mewn hanes yn dirwyn i ben.”
“Pam aros?”
Ychwanega ei bod hi’n “amser i adael a dechrau ar y gwaith o ymsefydlu dyfodol gwell, llewyrchus i’n hunain ac i’n plant”.
“Gall Cymru fod cymaint yn fwy nag ydym yn cael caniatâd i fod fel rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae yn frith o wledydd o faint tebyg i Gymru sydd erbyn hyn yn fwy cyfoethog na ni, neu yn ein dal lan yn gyflym tu hwnt, y mwyafrif helaeth yn mwynhau safon bywyd uwch.
“Gwledydd fel Slofenia, Estonia, Croatia a llawer mwy, yn dangos y ffordd i ni, yn dangos yn glir y ffyrdd medrwn ffynnu fel gwlad rhydd ac annibynnol.”