Mae gan drigolion dair wythnos i leisio’u barn am gynlluniau ar gyfer campws ysgol dwy iaith yn Rhymni.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cynnig symud dwy ysgol bresennol – Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Uwchradd Rhymni Uchaf – i gampws newydd pwrpasol a chynaliadwy.

Bydd y ddwy ysgol yn “aros ar wahân fel endidau” er y bydden nhw’n rhannu’r safle, ond byddan nhw’n “rhannu rhai cyfleusterau”, yn ôl y Cyngor.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion yn rhedeg hyd at Dachwedd 9.

Pe bai’r campws ysgol newydd yn cael ei adeiladu, mae’r Cyngor yn dweud y byddai’n “cael ei ddylunio i fanteisio’n llawn ar isadeiledd lleol”, ac y byddai hefyd yn cydymffurfio ag effeithlonrwydd ynni a rheolau hinsawdd Llywodraeth Cymru.

Gallai cyfuno’r ddwy ysgol gynradd helpu’r Cyngor hefyd wrth “leihau… ôl-groniad o ran costau cynnal a chadw ysgolion”.

Amcanbris presennol y prosiect yw £17.6m.

O ran y swm hwnnw, mae’r Cyngor yn cynnig cyfrannu ychydig dros £6m, gyda’r £11.5m sy’n weddill yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.