Wrth i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi mynediad am ddim i dripiau ysgol i’r Ffair Aeaf eleni, mae un o’r rhai fydd yn cymryd rhan yn rhaglen addysg y Ffair yn dweud ei bod hi’n “adeg berffaith” i blant ddysgu am fwyd ac amaeth.
Bydd y Ffair Aeaf yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe yn Llanelwedd ddydd Llun, Tachwedd 27 a dydd Mawrth, Tachwedd 28, a bydd mynediad am ddim i dripiau ysgol sydd wedi’u trefnu ymlaen llaw, a mynediad rhatach i fyfyrwyr addysg uwch.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru’n hyrwyddo amaeth, ymchwil ac addysg, yn enwedig ym meysydd bwyd, ffermio a chefn gwlad, ac mae hynny’n un o’u prif amcanion elusennol hefyd.
Bob blwyddyn, mae mwy o ysgolion a cholegau’n gweld gwerth addysgol mynychu’r digwyddiad hwn i gael gwybod am gynhyrchu bwyd, y gadwyn gyflenwi a sefydliadau amaethyddol.
Fe wnaeth dros 1,000 o blant ysgol a myfyrwyr o bob cwr o Gymru a thros y ffin ymweld â’r Ffair Aeaf y llynedd.
Yn cyffwrdd â llawer o agweddau ar y cwricwlwm, mae ymweliad â’r Ffair Aeaf yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr gael gwybod am amaethyddiaeth mewn perthynas ag astudiaethau busnes, coginio a maeth, lles anifeiliaid, daearyddiaeth, mathemateg a llawer mwy.
Rhaglen addysgol newydd
Eleni, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn lansio rhaglen addysgol newydd yng Nghanolfan yr Aelodau.
Bydd y cynnig addysgol ar gyfer dysgwyr o bob oed, yn cynnwys plant ysgolion cynradd ac uwchradd, myfyrwyr addysg uwch a dysgwyr mewn oed.
Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddeall ffeithiau pwysig sy’n cynnal egwyddorion ffermio, megis hanfodion tyfu mewn pridd iach.
Mae’r siaradwyr yn cynnwys Michael Kennard o’r Compost Club, sy’n arddwr ac yn addysgwr; Adam Jones, cyflwynydd S4C (Adam yn yr Ardd); Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru; a Jonathan Wilkinson, cyd-sylfaenydd Cows on Tour, sy’n ffermwr o Sir Drefaldwyn ac yn aelod o’r NFU; a David Elias, cadwraethwr o Barc Cenedlaethol Eryri ac awdur Shaping the Wild.
Pwysigrwydd amaeth a thyfu bwyd
Yn ôl Adam Jones, gan fod y Ffair yn cael ei chynnal yn ystod tymor yr ysgol, gall plant a phobol ifanc ei fwynhau.
Yn ddathliad o’r Nadolig, bydd hefyd yn gyfle i brynu cynnyrch lleol, gan ddangos pwysigrwydd amaeth a thyfu bwyd yng Nghymru.
“Mae’r Sioe Fawr yn digwydd bron iawn yn ystod gwyliau’r haf neu ddiwedd y tymor ysgol,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r Ffair Aeaf reit yng nghanol tymor yr hydref.
“Mae o’n adeg berffaith i blant fynd i ddysgu am sut rydym ni yn tyfu bwyd yng Nghymru, sut rydym yn maethu – mewn ffordd, pa mor wych yw Cymru fel gwlad o ran gallu cynhyrchu, a bod yna blatfform i bobol fynd i weld o a bod o ddim yn mynd i gostio llawer.
“Mae’r Sioe yn cydnabod, oherwydd costau teithio er enghraifft, fod cynnig mynediad am ddim yn ryw fath o gymhelliad i drefnu bysus wedyn, felly, i fynd â llond lle o blant.
“Ddim jest plant; mae ysgolion uwchradd yn mynd hefyd. Rydym yn sôn am bobol ifanc.
“Mewn ffordd, rwy’n gweld o fel cam i ddangos bod yna ddyfodol i fyd amaeth a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
“Ti angen cyffroi’r genhedlaeth nesaf i fod yn gyffrous am hynny, a rhoi cyfle iddyn nhw wneud.
“Dwi’n meddwl bod o’n gyfle grêt.
“Mae’r Ffair Aeaf yn bwysig, oherwydd mae’n ryw fath o ddathliad cyn y Nadolig, mae’n gyfle da i ddangos y cynnyrch sydd gan Gymru.
“Os ydych yn prynu, pam ddim cefnogi busnesau lleol Cymreig?
“Mae’n lle da i fynd os ydych chi eisiau prynu eich tsiytnis, jams a hampers, a phrynu’ch diodydd a chig am y Nadolig.
“Mae o mewn ffordd yn gychwyn da ar dymor dathlu’r Nadolig.
“O’r fan yna ymlaen, mae hi fel bod y Nadolig yn dechrau.
“Mae’n adeg wlyb ac oer o’r flwyddyn, mae’n rywle y gallech chi fynd i gael bach o wres, dathlu a golau, felly pam ddim?”
Amaeth yn perthyn i bobol ifanc
Gyda’r sioe yn edrych i gael pobol, ac yn enwedig pobol ifanc i deimlo perchnogaeth dros amaeth, bydd Adam Jones yn cynnal sesiwn drwy’r Gymraeg yn y Ffair Aeaf.
“Dwi’n meddwl bod hwn yn ddechrau cyffrous a phennod newydd i’r Sioe Frenhinol,” meddai wedyn.
“Maen nhw’n edrych o ddifri nawr ar bob elfen o waith y Sioe, o ran sut gallan nhw gynnwys pobol ifanc, sut gallan nhw ddenu pobol mewn i’r sioe, a sut gallan nhw weithio gyda’r sector addysg yn benodol i gael pobol i ddysgu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant, ond hefyd i deimlo bod amaeth yn perthyn iddyn nhw a bod o’n bwysig iddyn nhw.
“Gyda’r Ffair Aeaf, bydda i’n cyflwyno sesiwn gryf Penigamp i ddisgyblion Blwyddyn 6 yn Gymraeg.
“Os bydd plant yn dod o ysgolion Saesneg, bydd cyfeieithu ar eu cyfer nhw.
“Mae’r Sioe hefyd yn awyddus i roi platfform i’n hiaith ni, a sicrhau bod pobol yn gweld ei bod hi’n iaith addysg ac amaeth.
“Bydd hi’n gyfle grêt, a gobeithio y daw yr ysgolion i gyd i’r Sioe i fwynhau’r cyfle sy’n cael ei gynnig.”
Amaeth yng Nghymru
Yn ôl Adam Jones, bydd y Ffair Aeaf yn gyfle i weld pa mor arbennig yw amaeth yng Nghymru.
Dywed fod cyfle gerllaw ym mhob rhan o Gymru i brofi byd amaeth.
“Mae sicr angen i bobol ifanc sylweddoli bod eu bwyd nhw’n cael ei gynhyrchu mewn ffordd arbennig yng Nghymru,” meddai.
“Bod gan Gymru fel gwlad ddulliau amaethu sydd yn arwain, mewn ffordd, yn rhyngwladol pan mae’n dod i les yr anifeiliaid, pan mae’n dod i safon y cynnyrch.
“Ni’n aml yn meddwl ein bod ni’n gorfod mewnforio ein bwydydd ni o’r Iseldiroedd a Sbaen, a llefydd felly.
“Dwi’n gobeithio, mewn ffordd, fod y Ffair Aeaf yn dangos i bobol, na, mae’n bwyd ni’n gallu cael ei gynhyrchu yng Nghymru.
“Os ydych yn byw mewn trefi neu ddinasoedd, er enghraifft, efallai fod eich gwybodaeth chi o sut mae amaethu yn gweithio ddim mor llawn â beth allai e fod.
“Wedi dweud hynny, does dim un dref na dinas yng Nghymru ble nad yw amaeth ar y stepen drws.
“Hyd yn oed yng Nghaerdydd, mae gyda chi randiroedd a ffermydd cymdeithasol sydd yn cynhyrchu bwyd.
“Dydy Wrecsam ddim yn bell o Ddyffryn Dyfrdwy.
“Os wyt ti’n mynd draw i Fangor, mae gyda ti amaeth yn Sir Fôn.
“Mae pob dinas yng Nghymru o fewn tafliad carreg i’r diwydiant.
“Byddw’n i’n annog pobol i deimlo’n hyderus amdano fo.
“Mae’r mynediad am ddim yn gwneud i bobol sylweddoli, ‘Mae’r Ffair Aeaf i fi’, dydy o ddim jest yn rywbeth i bobol sy’n gweithio ar ffarm.
“Rwy’n gallu mynd, ac rwy’n gallu mwynhau hefyd.”
Gwybodaeth bellach
Rhaid i bob trip ysgol gofrestru ymlaen llaw a rhagarchebu eu tocynnau cyn y Ffair Aeaf.
Mae’r Ffair Aeaf yn rhad ac am ddim i blant ysgolion cynradd ac uwchradd dan 16 oed, a bydd tâl mynediad rhatach o £5 yn cael ei gynnig i fyfyrwyr addysg uwch.
Y dyddiad cau i gofrestru yw dydd Gwener, Hydref 27.
Os ydych yn rhan o ysgol, coleg neu brifysgol ac yr hoffech chi drefnu trip i’r Ffair Aeaf sydd ar ddod, e-bostiwch requests@rwas.co.uk, neu ffoniwch 01982 553863 cyn y dyddiad cau.