Mae’n bosib y gallai’r dreth dwristiaeth gael ei chyflwyno mor fuan â 2027, yn ôl dogfen newydd sydd wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru

Fodd bynnag, bydd y penderfyniad i gyflwyno ardoll neu beidio yn nwylo’r awdurdodau lleol, ac felly fydd hi ddim yn orfodol.

Pe bai’r dreth yn cael ei phasio, bydd awdurdodau lleol Cymru’n cynnal ymgynghoriad yn ystod haf 2025, er mwyn penderfynu a yw’n rywbeth maen nhw eisiau ei chyflwyno.

Bydd y cynghorau sy’n penderfynu cyflwyno’r dreth wedyn yn hysbysu’r cyhoedd yn 2026, ac fe fydd yn dod i rym yn 2027.

Penderfyniad y Senedd yw faint yn union fydd cost y dreth i dwristiaid, a dewis y cynghorau fydd sut yn union maen nhw am wario’r arian i hybu twristiaeth gynaliadwy.

Annog twristiaeth gynaliadwy

Yn ôl y ddogfen, y gobaith yw y bydd y dreth yn hybu twristiaeth fwy cynaliadwy.

“Lle mae ardoll yn cael ei defnyddio yng Nghymru, dylai annog agwedd fwy cynaliadwy at dwristiaeth,” meddai.

“Gwyddom fod twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi economïau lleol.

“Ond gall twristiaeth anghytbwys, gyda chefnogaeth wael, hefyd roi pwysau ar gymunedau lleol a thanseilio’r ansawdd uchel amwynderau rydyn ni i gyd eisiau eu profi a’u cynnig i’n hymwelwyr.”

Mae’r polisi yn rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac felly mae disgwyl y bydd yn cael digon o gefnogaeth i gael ei basio yn y Senedd.

‘Arbennig o ddigroeso’

Pryder y Ceidwadwyr Cymreig yw y bydd y polisi’n cael effaith negyddol ar y diwydiant.

Fis Mehefin y llynedd, cyflwynodd Llywodraeth Cymru reolau newydd oedd yn golygu bod yn rhaid byw mewn cartrefi gwyliau am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn – cynnydd o’r 70 diwrnod blaenorol.

Mae perchnogion sydd ddim yn cyrraedd y targed yn wynebu premiwm treth y cyngor.

“Mae’r Llywodraeth Lafur wedi methu â denu ymwelwyr i Gymru ers i’w rheoliadau niweidiol 182 diwrnod ddod i rym a bydd cynlluniau i gyflwyno treth dwristiaeth wenwynig ond yn gwneud pethau’n waeth i’r sector,” meddai Tom Giffard, llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae cynlluniau Llafur yn arbennig o ddigroeso ar adeg lle maen nhw eisoes yn taro Cymru gyda’u terfynau 20m.y.a. cyffredinol fydd yn niweidio economi Cymru hyd at £9bn, a rheoliadau niweidiol 182 diwrnod yn gyrru darparwyr llety hunanddarpar allan o fusnes.

“Mae obsesiwn y Llywodraeth Lafur â threthu’r diwydiant twristiaeth i leihau nifer yr ymwelwyr, yn hytrach na gwella’r sector twristiaeth, yn ddull anghywir i Gymru.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.