Mae Mark Drakeford am gymryd deiseb yn erbyn terfynau cyflymder 20m.y.a. “o ddifrif” wedi iddi dderbyn dros 450,000 o lofnodion.
Wrth siarad â’r Pwyllgor Materion Cymreig, fe wnaeth y Prif Weinidog gadarnhau y byddan nhw’n trin y ddeiseb fel unrhyw ddeiseb arall.
Daeth ei ymateb wedi i’r Aelod Seneddol Ceidwadol Stephen Crabb, cadeirydd y pwyllgor, ofyn a oedd yn cydnabod pryderon gan rai o’r gwasanaethau brys.
“Mae rhai lleisiau unigol mewn rhai gwasanaethau wedi mynegi pryder,” meddai Mark Drakeford.
“Nid yw’r gwasanaethau eu hunain wedi gwneud hynny, ac wrth gwrs rydym yn gweithio’n agos iawn gyda nhw.
“Nid yw’r rheolau yn wahanol mewn ffordd 20m.y.a. i ffordd 30 neu 40 neu 50 neu 60m.y.a.”
Hen reolau heb newid i’r gwasanaethau brys
Dywed fod y gwasanaethau brys yn parhau i gael teithio uwchlaw’r terfyn pan fydd yn briodol, megis mewn argyfwng.
“Nid oes dim o hynny wedi newid,” meddai.
“Ac rwy’n meddwl bod nifer o’r pryderon hyn yn dod cyn y ffeithiau, pan ddaw’n fater o weithredu’r system ar lawr gwlad, dw i ddim yn meddwl y bydd yr ofnau hynny’n dod i’r amlwg.”
Fodd bynnag, gan nad yw awdur y ddeiseb wedi cytuno i’w chau yn fuan, bydd yn parhau i gasglu llofnodion am y cyfnod cyfan o chwe mis.
Felly, fydd dim modd ei hystyried yn y Senedd tan fis Mawrth.
Gwrthwynebiad wedi cynyddu
Mae arolwg barn newydd gan Redfield & Wilton Strategies hefyd yn dangos bod y gwrthwynebiad i’r polisi wedi cryfhau ers iddo gael ei gyflwyno ar Fedi 17.
Yn ôl yr arolwg barn, mae 59% yn gwrthwynebu’r terfyn cyflymder ar ffyrdd mewn ardaloedd â nifer o adeiladau a cherddwyr, tra bod 29% yn ei gefnogi.
Dangosodd arolwg tebyg a wnaed cyn cyflwyno’r terfyn fod 46% yn ei gefnogi a 34% yn ei wrthwynebu.
Anfanteision yn fwy gweledol
Gan fod yr elfennau negyddol yn fwy amlwg a gweledol na’r buddion, mae’n debyg fod hynny’n gyfrifol am y newid barn, yn ôl eu pennaeth ymchwil.
Er hynny, mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi croesawu’r newid, ac mae disgwyl iddo olygu bod 20,000 yn llai o bobol yn cael eu hanafu dros y ddegawd nesaf.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod “yn cydnabod bod hwn yn newid mawr” ond ei fod yn diogelu cymunedau.
“Rydym yn casglu adborth gan awdurdodau lleol i’w helpu i gymhwyso eithriadau i’r terfyn 20 m.y.a. rhagosodedig lle mae’n briodol gwneud hynny,” meddai llefarydd.
“Rydym hefyd yn parhau i weithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill i ymgysylltu â gyrwyr am fanteision cyflymderau arafach.
“Mae’n rhy gynnar i ddarparu asesiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”