Bydd y gyntaf o dair gwylnos genedlaethol i weddïo dros heddwch a chyfiawnder yn y Dwyrain Canol yn cael ei chynnal yn Nyffryn Ogwen heno (nos Iau, Hydref 19).
Ar ôl yr wylnos yn Llys Dafydd heno, bydd y nesaf ym Mharc Llandysul ddydd Sul (Hydref 22) am 5 o’r gloch, a’r olaf yng Nghastellnewydd Emlyn nos Fawrth (Hydref 24) am 6 o’r gloch.
Yn ôl y Parchedig Sian Elin Thomas, sy’n Barchedig ar gapeli Bro Cemaes Dyffryn Teifi, y nod yw “edrych at ein gilydd i gefnogi ein gilydd ac i gefnogi pobol ar draws y dŵr”.
Lansiodd Hamas, y grŵp milwriaethus Palesteinaidd, ymosodiad ar Israel ar Hydref 7, gan ladd mwy na 1,400 o bobol a chymryd degau o wystlon.
Yr hyn sy’n bwysig i’r Parchedig Siân Elin Thomas yw “amddiffyn y plant a phobol ddiniwed sy’n cael eu lladd ac sy’n dioddef am ddim rheswm”.
Mae bron i 2,700 o bobol wedi cael eu lladd yn Gaza ers i Israel gynnal cyrchoedd awyr dialgar, ac mae disgwyl ymosodiadau daear pellach.
Gŵylnos Llys Dafydd
Mae’r wylnos yn Llys Dafydd yn cael ei threfnu gan Grŵp Cyfiawnder a Heddwch Bangor ac Ynys Môn, tra bod y Parchedig Heulwen Evans, offeiriad Eglwys y Drindod Sanctaidd yng Nghastellnewydd Emlyn a Siân Elin Thomas sy’n Barchedig ar gapeli’r Bro Cemaes Dyffryn Teifi yn trefnu’r rhai yng Nghastellnewydd Emlyn a Pharc Llandysul.
Er nad yw pawb yn credu yn Nuw, mae’r Parchedig Siân Elin Thomas yn teimlo bod angen meddwl am y bobol sydd wedi’u heffeithio, a gweddïo i ofyn i Dduw helpu’r arweinwyr bwyllo rhag lladd mwy o bobol.
“Rydym wedi teimlo fel arweinwyr yr eglwysi a’r capeli yn ein hardal fod angen lle i bobol ddod at ei gilydd i weddïo, i fyfyrio am y sefyllfa, jest amser rili i edrych at ein gilydd, i gefnogi ein gilydd ac i gefnogi pobol ar draws y dŵr,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n sefyllfa mor erchyll.
“Mae’n sefyllfa mor ofnadwy, ac rydym yn teimlo fod dim byd y gallwn ei wneud ond dangos ein bod ni’n meddwl amdanyn nhw, a’n bod ni’n gweddïo amdanyn nhw hefyd.
“Rydyn ni fel pobol Gristnogol yn teimlo bod gweddi yn helpu.
“Rydym yn teimlo gyda gweddi ein bod yn siarad gyda Duw i ofyn i Dduw i ofyn i bobol bwyllo, i ni ofyn i rywun i’n harweinwyr bwyllo, i beidio mynd ar flaen y gad a brwydro.
“Rwy’n deall nad yw pob un yn meddwl bod gweddïo yn helpu, ond i bobol Gristnogol, pobol sy’n meddwl bod gweddi yn helpu, rydym yn cynnig y lle hynny i bobol ddod at ei gilydd.”
Pobol ddiniwed
Gyda phobol ddiniwed yn dioddef ar y ddwy ochr, mae’r Parchedig Siân Elin Thomas eisiau dangos cefnogaeth o Gymru.
“Dydw i ddim eisiau mynd mewn i wleidyddiaeth y peth,” meddai.
“Dyna beth rydym wedi bod yn trafod wrth drefnu’r wylnos, a dyna beth rydym wedi bod yn siarad amdano yn ein heglwysi dros yr wythnos diwethaf, yw amddiffyn pobol ddiniwed.
“Ar bob ochr, mae pobol ddiniwed yn dioddef.
“Gyda’r llwybrau yma maen nhw wedi ceisio’u creu i adael pobol allan o Gaza, bod y rheini yn cael eu gwneud yn ddiogel.
“Mae am amddiffyn y plant a phobol ddiniwed sy’n cael eu lladd ac yn dioddef am ddim rheswm.
“Dw i jest yn teimlo bod y bobol yn yr ardal hon o Gymru, yn y gornel fach yma o Gymru, ein bod ni’n gallu dod at ein gilydd i ddangos ein bod ni’n meddwl amdanyn nhw.”