Mae’r cynnydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn “rhwystredig ac yn frawychus o araf”, yn ôl meddygon.
Mewn adroddiad newydd, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Gweithrediaeth newydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru “i symud pethau ymlaen”.
Cafodd y Weithrediaeth newydd ei sefydlu i lywio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn ffordd ganolog, er mwyn safoni gofal dros Gymru, ac mae hi ar waith ers mis Ebrill eleni.
Y bwriad ydy ei bod hi’n dod â rhwydweithiau o glinigwyr, fel meddygon a nyrsys, at ei gilydd gyda sefydliadau trydydd sector sy’n cefnogi pobol â channoedd o gyflyrau fel canser, clefyd siwgr a chlefyd y galon
Mae’r papur, ‘Rhoi llais i bawb’, yn galw am gael gweledigaeth strategol glir ar gyfer y Weithrediaeth, ac am well cyfathrebu gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd.
‘Symud yn rhy araf’
Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon, mae’r hinsawdd ariannol yn golygu bod rhaid defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i weithio efo’r system iechyd a gofal ehangach.
Heb wneud hynny, “y risg yw y bydd amseroedd aros ar gyfer diagnosteg a thriniaeth yn tyfu hyd yn oed yn hirach, bydd diogelwch cleifion yn cael ei roi yn y fantol, bydd argyfwng y gweithlu yn dwysáu a bydd anghydraddoldebau iechyd yn gwaethygu wrth i gyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddiflannu,” meddai.
Mae gweithwyr iechyd yn “jyglo cymaint”, meddai Dr Hilary Williams, is-lywydd Cymru yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon, ac mae “gwir angen i’r Weithrediaeth newydd fod yn llwyddiant”.
“Mae pethau’n symud yn rhy araf,” meddai.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati’n rhagweithiol i gefnogi a grymuso’r rhwydweithiau clinigol a’r rhaglenni strategol i fwrw ymlaen â’r gwaith.
“Pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud, mae angen tawelu meddyliau arweinwyr clinigol y bydd camau gweithredu’n dilyn.
“Fel arall, y risg yw y bydd y system yn mynd yn angof a byddwn yn colli’r cyfle i gael effaith go iawn ar ganlyniadau cleifion.
“Mae’n rhaid i bethau newid. Ni allwn barhau i ailadrodd yr un hen gamgymeriadau. Mae gormod o gleifion, teuluoedd a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael eu siomi’n arw gan system iechyd sy’n gwegian fwyfwy bob dydd.
“P’un a ydych chi’n aros i gael diagnosis, triniaeth neu eich rhyddhau o’r ysbyty, mae pethau’n gallu teimlo’n rhy gymhleth, biwrocrataidd neu’n rhwystredig o araf.
“Mae ein neges yn glir: mae angen ystod eang ac amrywiol o leisiau arnom ni sy’n bwydo i mewn i waith Gweithrediaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru – ac yn anad dim, mae angen i ni symud pethau yn eu blaen cyn gynted â phosibl.”