Mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi awgrymu mai uno â chynghorau cyfagos yw’r unig ffordd o ddatrys y bygythiad o fynd yn fethdalwyr.

Fe wnaeth y Cynghorydd Jason McLellan hefyd feio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am beidio â rhoi digon o arian i Lywodraeth Cymru i’w ddyrannu i gynghorau.

Daw hyn wedi’r newyddion bod y Cyngor yn wynebu twll o £26m yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

O ganlyniad, mae Sir Ddinbych bellach am geisio torri swyddi a gwasanaethau, a chodi tâl ychwanegol am wasanaethau presennol.

Uno awdurdodau lleol?

Cafodd cynlluniau i uno awdurdodau lleol eu dileu yn 2016, ond mae Jason McLellan yn credu y gallai cynghorau gydweithio’n agosach er mwyn torri costau cynghorau.

“Roedd y cynigion hynny ar y bwrdd ddeng mlynedd yn ôl. Ond gwelsom rywfaint o wrthwynebiad gan gynghorau unigol ar uno,” meddai.

“Yn y cyfnod heriol iawn hwn, nid oes dim byd oddi ar y bwrdd. Mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, felly rydyn ni’n cael y gyllideb hon dros y llinell.”

Y llynedd, derbyniodd Sir Ddinbych godiad setliad llywodraeth leol o 8.2%, o’i gymharu â 7.3% yng Nghonwy, cyngor sydd hefyd mewn trafferthion ariannol, a 9% yng Nghaerdydd.

Roedd Sir Ddinbych yn y degfed safle o blith y 22 awdurdod o ran cynnydd canran eu setliad llywodraeth leol.

Cynghorau “o dan fygythiad”

Fe wnaeth y cynghorydd amddiffyn Llywodraeth Cymru, gan ddweud mai eu hunig ddewis yw “dyrannu’r cyllid sydd ganddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.

“Maen nhw [Llywodraeth Cymru] wedi rhybuddio’n ddiweddar fod pob cyngor yng Nghymru a’r gwasanaethau hanfodol maen nhw’n eu darparu dan fygythiad os nad ydyn nhw’n cael mwy o gyllid. Maen nhw’n glir iawn ar hynny.

“Rwy’ mewn deialog gyson ag arweinwyr eraill sy’n wynebu’r un penderfyniadau anodd yn union ag yr ydym yn eu hwynebu yma yn Sir Ddinbych.

“Mae deialog gyson rhyngof i ac arweinwyr eraill a swyddogion Llywodraeth Cymru.”

‘Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru’

Fodd bynnag, fe wnaeth David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, ymateb gan ddweud bod “Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ei dewisiadau gwariant ei hun ar faterion datganoledig ac yn cael ei dal yn atebol gan y Senedd am y penderfyniadau hynny”.

“O’n rhan ni, rydym yn rhoi’r setliad cyllid mwyaf yn hanes datganoli i Lywodraeth Cymru – £18 biliwn y flwyddyn, sy’n cynyddu mewn termau real dros gyfnod Adolygiad o Wariant 2021,” meddai.

“Mae hyn yn cyfateb i tua £120 y pen am bob £100 y pen o wariant cyfatebol Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Lloegr, gan ei helpu i gyflawni ei chyfrifoldebau datganoledig gan gynnwys ariannu awdurdodau lleol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio ymateb.