Fe allai Sweden anfon rhwng 60,000 a 80,000 o geiswyr lloches o’r wlad yn y blynyddoedd nesaf, yn ôl gweinidog yn y llywodraeth.
Dywedodd Anders Ygeman wrth bapur newydd Dagens Industri bod 45% o geisiadau am loches yn cael eu gwrthod ar hyn o bryd, ac felly mae’n rhaid i’r wlad baratoi i anfon degau ar filoedd o’r 163,000 o bobl oedd wedi ceisio am loches yn Sweden o’r wlad dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Dwi’n credu y gallai fod tua 60,000 ond fe allai fod gymaint â 80,000,” meddai Anders Ygeman.
Yr Almaen a Sweden oedd yn cael eu ffafrio fwyaf gan geiswyr lloches yn Ewrop y llynedd.