Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi lloches i blant sy’n ffoaduriaid ac sydd wedi gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn Syria ac mewn rhyfeloedd eraill.
Dywedodd y Gweinidog Mewnfudo James Brokenshire y byddai’r DU yn gweithio gydag asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig – yr UNHCR – i nodi “achosion eithriadol” o blant sydd ar eu pen eu hunain ac a fyddai’n elwa o loches ym Mhrydain.
Mae elusennau wedi canmol y cynlluniau a allai “dorri tir newydd”.
Sefydlu cronfa £10m
Ar yr un pryd, bydd y DU yn darparu adnoddau ychwanegol i’r Swyddfa Cymorth Lloches Ewropeaidd a fydd yn helpu Gwlad Groeg a’r Eidal i adnabod ffoaduriaid a mewnfudwyr – gan gynnwys plant – gyda’r nod o’u rhoi mewn cysylltiad gydag aelodau o’u teulu mewn mannau eraill yn Ewrop, gan gynnwys yn y DU.
Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol hefyd am sefydlu cronfa newydd o hyd at £10 miliwn i gefnogi plant sy’n ffoaduriaid a mewnfudwyr sy’n agored i niwed yn Ewrop.
Daw’r cyhoeddiadau yn dilyn galwadau gan elusennau y dylai’r DU roi lloches i o leiaf 3,000 o blant a phobl ifanc sydd wedi cyrraedd Ewrop o wledydd fel Syria ac Afghanistan sydd mewn perygl difrifol gan fasnachwyr pobl.
‘Cam ymlaen’
Nid yw’r Swyddfa Gartref wedi dweud faint o blant mae’n disgwyl derbyn o dan y cynllun, sy’n ychwanegol at y rhaglen i ail-gartrefu 20,000 o ffoaduriaid o Syria erbyn 2020.
Mae elusen Achub y Plant wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud y byddai’r mesurau yn helpu i ailuno teuluoedd yn Ewrop a bod potensial i helpu miloedd o blant sy’n ffoaduriaid ac yn agored i niwed.
Dywedodd Yvette Cooper o’r Blaid Llafur ei fod yn “gam ymlaen” ond anogodd gweinidogion i wneud mwy.